The Doctor of Myddfai
Opera gan Syr Peter Maxwell Davies yw The Doctor of Myddfai (1996). Mae'n seiliedig yn fras ar y chwedlau a thraddodiadau sy'n ymwneud â Meddygon Myddfai, teulu o feddygon yn ardal Myddfai yn yr Oesoedd Canol, ond fe'i lleolir mewn cymdeithas dotalitaraidd fel yr un a bortreadir yn y nofel 1984 gan George Orwell.