Gwynne Howell
Gwedd
Gwynne Howell | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 1938 Gorseinon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr opera, perfformiwr |
Arddull | opera |
Math o lais | bas |
Canwr opera o Gymru yw Gwynne Howell (ganwyd 13 Mehefin 1938); mae ganddo lais bas. Caiff ei adnabod yn benaf am ei berfformiadau o Verdi a Wagner.
Fe'i ganed yng Ngorseinion cyn i'r teulu symud i Waencaegurwen; wedi gadael yr ysgol leol astudiodd yn yr RMCM; yno canodd Leporello mewn cyngherddau a daeth yn enwog am ei berfformiadau llwyfan o Hunding, Fasolt, a Pogner. Ymunodd â Theatr Sadler's Wells yn 1968, a'r Tŷ Opera Brenhinol yn 1970. Bu'n westai rheolaidd yn Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera Cenedlaethol Cymru.