The Dark Knight (ffilm)
![]() | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Christopher Nolan |
Cynhyrchydd | Christopher Nolan Charles Roven Emma Thomas |
Serennu | Christian Bale Michael Caine Heath Ledger Maggie Gyllenhaal Morgan Freeman Cillian Murphy |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer James Newton Howard |
Sinematograffeg | Wally Pfister |
Golygydd | Lee Smith |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros |
Dyddiad rhyddhau | Awstralia: 17 Gorffennaf 2008 Gogledd America: 18 Gorffennaf 2008 Y Deyrnas Unedig: 25 Gorffennaf 2008 |
Amser rhedeg | 152 munud |
Gwlad | ![]() ![]() |
Iaith | Saesneg |
Rhagflaenydd | Batman Begins |
Olynydd | The Dark Knight Rises |
Gwefan swyddogol | |
Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm sy'n serennu Christian Bale a Heath Ledger yw The Dark Knight (2008). Seiliwyd y ffilm ar y cymeriad Batman o'r DC Comics, ac mae'n rhan o gyfres Christopher Nolan o ffilmiau. Dyma'r dilyniant i Batman Begins (2005). Adrodda'r ffilm hanes Bruce Wayne/Batman (Bale) wrth iddo ef a'r awdurdodau frwydro yn erbyn bygythiad newydd y Joker (Heath Ledger). Cafodd Nolan yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Joker o'r llyfrau comig o'r 1940au a'r gyfres The Long Halloween (1996). Cafodd ei ffilmio'n bennaf yn Chicago, yn ogystal â lleoliadau eraill yn yr Unol Daleithiau, y DU a Hong Kong. Defnyddiodd Nolan gamera IMAX i ffilmio rhai golygfeydd, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf y Joker yn y ffilm.
Ar yr 22ain o Ionawr, 2008, ar ôl gorffen ffilmio The Dark Knight, bu farw Ledger o gyfuniad o gyffuriau presgripsiwn. Arweiniodd hyn at sylw mawr yn cael ei roi i'r ffilm gan y wasg a chan y cyhoedd. Yn wreiddiol, bwriad Warner Bros. oedd i greu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer The Dark Knight gan ddefnyddio gwefannau a ffilmiau byrion, gan ddefnyddio siotiau sgrîn o Heath Ledger fel y Joker. Ar ôl ei farwolaeth, newidiodd y stiwdio eu hymgyrch hyrwyddo.[1] Rhyddhawyd y ffilm ar 16 Gorffennaf 2008 yn Awstralia, ar 18 Gorffennaf 2008 yng Ngogledd America ac ar 24 Gorffennaf 2008 yn y DU. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cadarnhaol pan gafodd ei rhyddhau a daeth y ffilm i fod yr ail ffilm yn unig i ennill dros $500 miliwn mewn sinemau yng Ngogledd America. Dyma yw'r pedwerydd ffilm yn unig i wneud dros $1 biliwn o ran gwerthiant. Yn sgîl ei llwyddiant beirniadol a masnachol, enillodd y ffilm wobrau amrywiol o'r Ffilm Orau i'r Effeithiau Arbennig Gorau.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Batman / Bruce Wayne - Christian Bale
- The Joker - Heath Ledger
- Rachel Dawes - Maggie Gyllenhaal
- Harvey Dent / Two Face - Aaron Eckhart
- The Scarecrow / Dr. Jonathan Crane - Cillian Murphy
- Alfred Pennyworth - Michael Caine
- Lucius Fox - Morgan Freeman
- Lt. James Gordon - Gary Oldman
Gwobrau ac Enwebiadau
[golygu | golygu cod]Hyd yn hyn, mae The Dark Knight wedi cael ei enwebu am dros 150 o wobrau ar gyfer sawl agwedd o'r ffilm, (gan gynnwys yn fwyaf penodol perfformiad Heath Ledger), sydd yn fwy nag unrhyw ffilm arall yn 2008. O'r enwebiadau hyn, enillodd y ffilm 92 gwobr.
Sefydliadau
[golygu | golygu cod]Gwobr | Categori | Enillwyd/Enwebwyd | Canlyniad |
---|---|---|---|
Gwobrau'r Academi | |||
Actor Cefnogol Gorau | Heath Ledger | Enillwyd | |
Cyfarwyddo Creadigol Gorau | Nathan Crowley, Peter Lando | Enwebwyd | |
Sinematograffiaeth Gorau | Wally Pfister | Enwebwyd | |
Golygu Ffilm Gorau | Lee Smith | Enwebwyd | |
Coluro Gorau | John Caglione, Jr. a Conor O’Sullivan | Enwebwyd | |
Golygu Seiniol Gorau | Richard King | Enillwyd | |
Cymysgu Seiniol Gorau | Lora Hirschberg, Gary Rizzo a Ed Novick | Enwebwyd | |
Effeithiau Gweledol Gorau | Nick Davis, Chris Corbould, Tim Webber a Paul Franklin | Enwebwyd | |
Cymdeithas Ffilm Americanaidd[2] | 10 Ffilm Uchaf y Flwyddyn | Warner Brothers Studios | Enillwyd |
Gwobrau BAFTA.[3] | Actor Cefnogol Gorau | Heath Ledger | Enillwyd |
Cerddoriaeth Gorau | Hans Zimmer / James Newton Howard | Enwebwyd | |
Sinematograffeg Gorau | Wally Pfister | Enwebwyd | |
Golygu Gorau | Lee Smith | Enwebwyd | |
Dylunio Cynhyrchiad Gorau | Nathan Crowley / Peter Lando | Enwebwyd | |
Gwisgoedd Gorau | Linda Hemming | Enwebwyd | |
Sain Gorau | Lora Hirschberg / Richard King / Ed Novick / Gary Rizzo | Enwebwyd | |
Effeithiau Gweledol Gorau | Chris Corbould / Nick Davis / Paul Franklin / Tim Webber | Enwebwyd | |
Gwallt a Cholur Gorau | Peter Robb-King | Enwebwyd | |
Cymdeithas Ddarlledu y Beirniaid Ffilm[4] | Y Ffilm Orau | Warner Brothers Studios | Enwebwyd |
Cyfarwyddwr Gorau | Christopher Nolan | Enwebwyd | |
Actor Cefnogol Goraur | Heath Ledger | Enillwyd | |
Cast Actio Gorau | Bale, Caine, Ledger, Eckhart, Oldman, Gyllenhaal, a Freeman | Enwebwyd | |
Ffilm Gyffro Orau | Warner Brothers Studios | Enillwyd | |
Cyfansoddwr Gorau | James Newton Howard a Hans Zimmer | Enwebwyd | |
GwobrauGolden Globes[5] | Actor Cefnogol Gorau mewn Ffilm | Heath Ledger | Enillwyd |
Gwaobrau'r Grammys[6] | Sgôr Albwm Trac Sain Gorau | James Newton Howard a Hans Zimmer | Enillwyd |
People's Choice Awards[7] | Hoff Ffilm | Warner Brothers Studios | Enillwyd |
Hoff Ffilm Gyffro | Warner Brothers Studios | Enillwyd | |
Hoff Gast | Bale, Ledger, Eckhart, Caine, Oldman, Gyllenhaal, a Freeman | Enillwyd | |
Hoff Seren Gyffro Gwrywaidd | Christian Bale | Enwebwyd | |
Hoff Prif Ddyn | Christian Bale | Enwebwyd | |
Favorite Superhero | Christian Bale as Batman | Won |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Advertising: Will Marketing Change After Star's Death? The Wall Street Journal. Adalwyd 17-03-2009
- ↑ AFI Top Ten Films 14-12-2008 Adalwyd 17-03-2009
- ↑ Film Winners in 2009 Archifwyd 2009-02-11 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 17-03-2009
- ↑ Critics Choice favors 'Milk,' 'Button' 09-12-2008 Adalwyd 09-12-2008
- ↑ Hollywood Foreign Press Association 2008 Golden Globe Awards Nominations For The Year Ended December 31, 2008 Archifwyd 2010-11-11 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 27-12-2008
- ↑ Annual Grammy Award Nominations Archifwyd 2010-12-20 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 2008-12-27]
- ↑ People's Choice Awards Adalwyd 2008-12-27