The Afternoons

Oddi ar Wicipedia
The Afternoons
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1999 Edit this on Wikidata
LleoliadDinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata

Band pop/indi Cymraeg oedd The Afternoons a sefydlwyd yn Ninbych y Pysgod[1] ac yna Caerdydd[2].

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y band yn 1999 a cafodd eu sengl cyntaf, A Change in Season[2], eu chwarae ar Radio 1 yn Awst 2000. Wedi hynny yn 2001 gwnaeth y band rhyddhau senglau ar label indie FFVinyl Caerdydd, yn ogystal â ryddhau albwm The Days We Found In The Sun. Hefyd yn 2001, ar ôl rhagolwg o sioe yn Llundain, arwyddodd The Afternoons gytundeb gyda Excellent Records, wedi'i leoli yn Tokyo ac ers hynny cafodd eu cerddoriaeth eu cyhoeddi yn Siapan. Yn 2003 cyhoeddwyd ail albwm; My Lost City. Enwebwyd un sengl yng nghategori Sengl Gorau yng Ngwobrau RAP Radio Cymru 2003, o'r enw "Dwi'n mynd i newid dy feddwl"[1]. Yn Mehefin 2005, cyhoeddwyd eu trydydd albwm, Rocket Summer, ac roedd yn gam at gerddoriaeth mwy pop i'r band. Cafwyd yr albwm dderbyniad da ledled y byd, yn enwedig felly yn yr Unol Daleithiau ac yn Sbaen. Cyhoeddwyd eu pedwerydd albwm Sweet Action yn 2008. Enillodd y ddau sengl ar yr albwm ("Don’t Turn Back" a "High Summer Lover") Sengl yr Wythnos ar sioe Radcliffe a Maconie ar Radio 2[2].

Dywed y band eu bod wedi eu ysbrydoli gan fandiau ac artistiaid fel: Roxy Music, Teenage Fanclub, Scritti Politti, the Monkees, the Velvets, the Beach Boys, Kraftwerk, the High Llamas, Super Furry Animals, Macca, the Go-Betweens, Ben Kweller, F. Scott Fitzgerald, Bob Moog.

Llinell Amser Y Band
Blwyddyn Digwyddiad
1999 Ffurfiwyd y band
2000 A Change in Seasons wedi'i chwarae ar Radio 1
2001 Cyhoeddiad albwm cyntaf, The Days We Found In The Sun

Llofnodi gyda Excellent Records

2003 Cyhoeddiad ail albwm My Lost City
2005 Cyhoeddiad trydydd albwm, Rocket Summer
2008 Cyhoeddiad pedwerydd albwm, Sweet Action

Aelodau[golygu | golygu cod]

Pedwar aelod sydd yn y band;

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]