The Aberystwith Observer
Gwedd
The Aberystwith Observer, 19 Mehefin 1858 | |
| Enghraifft o: | papur wythnosol |
|---|---|
| Daeth i ben | 8 Mai 1915 |
| Golygydd | Richard Hughes Williams |
| Cyhoeddwr | David Jenkins |
| Rhan o | Papurau Newyddion Cymru Ar-lein |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 19 Mehefin 1858 |
| Dechrau/Sefydlu | 1857 |
| Lleoliad cyhoeddi | Aberystwyth |
| Perchennog | David Jenkins |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
Papur newydd Saesneg ceidwadol wythnosol oedd The Aberystwith Observer a sefydlwyd ym 1858 ac a ddaeth i ben yn 1870. Cofnodai newyddion ardal Aberystwyth yn ogystal â rhestr o wybodaeth i ymwelwyr yr haf yn yr ardaloedd twristaidd, gan gynnwys: Ceredigion, De Meirionnydd a Gorllewin Trefaldwyn, sef yr ardal lle'i gwerthwyd.[1] Y perchennog oedd Philip Williams.
Ymhlith perchnogion y papur bu John Morgan (ca. 1895) a David Rowlands (ca. 1910). Bu Richard Hughes Williams (Dic Tryfan) (1878?–1919) yn olygydd ar y papur rhwng 1913 a 1915.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Aberystwyth Observer Papurau Newydd Cymru Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru