Richard Hughes Williams (Dic Tryfan)
| Richard Hughes Williams | |
|---|---|
| Ffugenw | Dic Tryfan |
| Ganwyd | 1878 Rhosgadfan |
| Bu farw | 26 Gorffennaf 1919 Ysbyty Tregaron |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr |
| Cyflogwr | |
Awdur storïau byrion a newyddiadurwr oedd Richard Hughes Williams (tua 1878 – 26 Gorffennaf 1919), "Dic Tryfan" i'w gyfeillion a'i ddarllenwyr.
Ei Fywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dic Tryfan yn Rhosgadfan, ardal chwareli ar lethrau Moel Tryfan, yn yr hen Sir Gaernarfon, yn fab i chwarelwr.
Byr a digon helbulus oedd ei oes, ar sawl ystyr. Ar ôl addysg ysgol elfennol aeth am gyfnod i weithio yn glerc yn swyddfa papur newydd Y Genedl yng Nghaernarfon. Gweithiodd yn y chwarel am sbel ar ôl hynny ac er nad oedd yn hapus yn y gwaith roedd yn brofiad a roddai gefndir a thestun rhai o'i straeon gorau. Treuliodd gyfnod yn Lloegr yn ceisio ennill bywoliaeth trwy sgwennu erthyglau ac yna dychwelodd i Gymru i weithio fel newyddiadurwr yn Aberystwyth a Llanelli. Bu'n gweithio mewn ffatri arfau ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bu farw yn ysbyty Tregaron yn 1919, pan nad oedd ond tua 44 mlwydd oed. Fel nifer o lenorion ac artistiaid eraill ni gafodd y clod a haeddai tan ar ôl ei farwolaeth.
Ei waith
[golygu | golygu cod]Ymhlith cyfeillion Dic Tryfan oedd y nofelydd a newyddiaduruwr Edward Morgan Humphreys a T. Gwynn Jones. Dechreuodd ei straeon cyntaf ymddangos mewn cylchgronnau yn 1902. Yn ôl T. Gwynn Jones roedd wedi sgwennu "rhai cannoedd" o storïau byrion, yn Gymraeg a Saesneg, ond dim ond canran cymharol bychan sydd i'w cael heddiw.[1] Lluniodd nifer o nofelau hefyd, er nad ymddangosodd yr un ohonynt mewn cyfrol.
Cyhoeddwyd Straeon y Chwarel, detholiad o ddeuddeg o'i straeon, yn 1914, gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1915, bu'n fuddugol mewn cystsadleuaeth ar ysgrifennu tair stori fer; cyhoeddwyd y straeon buddugol, sef "Noswylio", "Y Colledig" ac "Yr Hogyn Drwg", y flwyddyn ganlynol yn y pamffled Tair Stori Fer. Roedd yr awdur yn gweithio yn Llanelli ar y pryd. Ni welodd y casgliad helaethach o'i straeon olau dydd tan 1932 pan gyhoeddodd Hughes a'i Fab, Wrecsam, gyfrol yn cynnwys deunaw o storïau (gan gynnwys holl straeon y ddwy gyfrol blaenorol gydag rhai ychwanegol) ynghyd â rhagymadrodd gwerthfawr iawn gan E. Morgan Humphreys.
Mae'r chwarel a'i chymdeithas yn gyd-destun y rhan fwyaf o'i straeon adnabyddus, gyda thlodi a marwolaeth annhymorol yn elfennau amlwg ynddynt. Mewn hyn o beth mae ei waith yn agos iawn i waith cynnar Kate Roberts, ond bod arddull Dic Tryfan yn llawer mwy cynnil. Roedd Kate Roberts yn nabod Dic Tryfan yn eitha da a chyflwynodd ei chyfrol O Gors y Bryniau iddo er coffadwriaeth. Er bod nifer o'r straeon gan Dic Tryfan yn ddigon trist ceir smaldod a hiwmor tawel ynddynt hefyd a thrwy'r cyfan mae urddas dyn yn wyneb bywyd caled yn sefyll allan.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Straeon Dic Tryfan
[golygu | golygu cod]- Straeon y Chwarel (Caernarfon, 1914; nid oes dyddiad cyhoeddi wedi'i nodi ar y llyfr ei hun ond ceir sôn amdano fel llyfr newydd ym mhapurau newydd yr haf honno)
- Tair Stori Fer (Wrecsam, 1916)
- Storïau Richard Hughes Williams, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys (Wrecsam, 1932)
- Argraffiad newydd: Cyfres Clasuron Hughes: Storïau Richard Hughes Williams. 1994. ISBN 9780852841495
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- T. Gwynn Jones, Cymeriadau (Wrecsam, 1933). Yn cynnwys ysgrif ar Dic Tryfan.
- Kate Roberts, Dau Lenor o Ochr Moel Tryfan (1970). Darlith.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
