Tewdrig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marwolaeth Tewdrig, darlun o gerflun gan y cerflunydd Cymreig J. Evan Thomas (1852).

Brenin Gwent a Glywysing yn ne Cymru a sant a ferthyrwyd yn ymladd y Sacsoniaid oedd Tewdrig neu Tewdrig ap Llywarch (Lladin: Theodoricius / Theodoric) (tua 580 - 630).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl hanesyn a geir yn Llyfr Llandaf (12g), roedd Tewdrig yn fab i naill ai i Lywarch neu Teithfall o Went, a roddodd lawer o dir i glas Llandaf. Ymddeolodd fel brenin er mwyn mynd yn feudwy yn Nhyndyrn ac fe'i olynwyd gan ei fab, Meurig, tad Athrwys ap Meurig.[2]

Ond pan groesodd y Sacsoniaid Afon Hafren dan arweiniad Ceolwulf tua'r flwyddyn, gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi, daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "paganiaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angeuol. Cafodd ei gludo ar gert ych i'r clas ar Ynys Echni, ym Môr Hafren, ond ar y ffordd arosodd yr ychen wrth ffynnon wyrthiol a enwir yn Ffynnon Tewdrig hyd heddiw. Yno cafodd ei glwyfau eu golchi a bu farw mewn hedd. Yng nghalendr yr Eglwys coffheir ei farw ar 3 Ionawr.[2]

Cof[golygu | golygu cod y dudalen]

Llandaf, yr eglwys gadeiriol Llandaf

Cododd y brenin Meurig eglwys yn y man a chladdodd ei dad yno a rhoi'r tir o amgylch i Esgobion Llandaf. Galwyd y llecyn yn Merthyr Tewdrig (pentref Matharn ar lan afon Gwy heddiw). Ond mae rhai haneswyr yn meddwl mai ger Caerfaddon yr ymladdwyd y frwydr ac i Dewdrig gael ei gladdu ar ei ffordd adref.[2]

Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor yn Eglwys Merthyr Tewdrig gan Francis Godwin, Esgob Llandaf 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979).