Tethys (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Saturn's Moon Tethys as seen from Voyager 2.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn Edit this on Wikidata
Màs617.39 ±0.07&Nbsp;edit this on wikidata
Dyddiad darganfod21 Mawrth 1684, 1684 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0001 Edit this on Wikidata
Radiws2,574.73 ±0.09 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tethys yw'r nawfed o loerennau a wyddys:

  • Cylchdro: 294,660 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 1060 km
  • Cynhwysedd: 6.22e20 kg

Ym mytholeg Roeg roedd Tethys yn ditanes, yn dduwies y môr ac yn chwaer a gwraig i Oceanos.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Cassini ym 1684.

Mae dwysedd isel Tethys yn dangos ei bod wedi ei chyfansoddi bron yn gyfan gwbl gan dŵr, yn debyg i Ddione a Rhea.

Mae hemisffer y gorllewin yn cael ei oruchafu gan grater enfawr o'r enw Odysews gyda thryfesur o 400 km, sydd bron yn 2/5 o dryfesur Tethys ei hun. Mae'r ffaith na wnaeth y trawiad a achosodd y crater ddinistrio Tethys yn llwyr yn awgrymu iddi fod yn hylifol ar y pryd neu o leiaf nid yn solet iawn. Mae'r crater bellach yn fflat (neu, mewn geiriau eraill, mae'n cydffurfio i siap sfferigol Tethys), heb mynyddoedd uchel yn ei gylchio na fannau canolog fel ar y Lleuad ac ar Fercher.

Yr ail nodwedd a welir ar Dethys ydy'r Ithaca Chasma, dyffryn a chandddo ddyfnder o 3–5 km, lled o 100 km, a hyd o 2000 km (neu 3/4 o gylchyn y lloeren).

Mae'n amlwg felly nad oedd Tethys yn solet yn y gorffennol. Mae'r craterau wedi cael eu llyfnu wrth i Dethys rewi ac ehangu ac mae'r arwyneb wedi cracio i ffurfio'r Ithaca Chasma.