Rhea (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Rhea
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs2.3065 +0.0001 -0.0001 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod23 Rhagfyr 1672 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.001 Edit this on Wikidata
Radiws764.3 ±1.1 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhea ydy'r bedwaredd ar ddeg o loerennau Sadwrn a wyddys:

  • Cylchdro: 527,040 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 1530 km
  • Cynhwysedd: 2.49e21 kg
Rhea

Ym mytholeg y Groegwyr roedd Rhea'n chwaer ac yn wraig i Gronos ac yn fam i Ddemeter, Hades (Plwton), Hera, Hestia, Poseidon a Zews.

Darganfuwyd y lloeren gan Cassini ym 1672.

Er ei bod rhywfaint yn fwy, mae Rhea'n debyg iawn i'r lloeren Dione. Mae gan ill dwy gyfansoddiadau tebyg, nodweddion albedo (nodweddion tywyll neu rai golau ar yr arwyneb sydd ddim o reidrwydd yn nodweddion daearyddol neu dopograffig) a thirweddau amrywiol. Mae'r ddwy loeren yn cylchdroi'n gydamserol (hynny yw: bydd yr un hemisffer yn wynebu Sadwrn trwy'r amser, fel mae'r un hemisffer o'r Lleuad bob amser yn wynebu'r Ddaear. Bydd yr un hemisffer bob amser yn wynebu cyfeiriad symudiad y lloeren -yr hemisffer arweiniol- tra bo'r hemisffer arall -yr hemisffer llusgol- bob amser yn wynebu'r tu ôl) ac mae ganddynt hemisfferau arweiniol sydd yn wahanol iawn i'w hemisfferau llusgol.

Mae Rhea wedi ei chyfansoddi'n bennaf gan iâ dŵr, a llai na 1/3 o'i chynhwysedd yn graig.

Mae hemisffer arweiniol Rhea yn llawn o graterau ac yn ddisglair.

Ar hemisffer llusgol Rhea gwelir rhwydwaith o wanafau disglair ar gefndir tywyll gydag ychydig iawn o graterau gweladwy.