Tessa Khan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tessa Khan
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethcyfreithiwr, amgylcheddwr Edit this on Wikidata

Mae Tessa Khan yn gyfreithwraig amgylcheddol sy'n byw yn y Deyrnas Unedig. Sefydlodd, ac mae'n gyd-gyfarwyddwraig y Rhwydwaith Ymgyfreitha Hinsawdd (Climate Litigation Network), sy'n cefnogi achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â lliniaru newid hinsawdd a chyfiawnder newid hinsawdd. Bu'n ymwneud â chyfraith hawliau dynol, ymgyrchu ac eiriolaeth.[1]

Dros y blynyddoedd, dadleuodd fod gwladwriaethau sofran wedi elwa’n fwriadol o godi lefelau carbon deuocsid ac wedi achosi difrod i'r amgylchedd; ymhlith yr achosion y bu'n rhan ohonyn nhw mae Achos Hinsawdd Iwerddon.[2] Yn ogystal a bod yn gyd-gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymgyfreitha Hinsawdd mae hi hefyd yn aelod o dîm cyfreithiol Urgenda.

Derbyniodd Tessa Khan y wobr Climate Breakthrough yn 2018,[3] ac yn 2019 gosododd y cylchgrawn Time hi ar ei restr o 15 o ferched sy'n arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Ei gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng Ngwlad Thai bu’n gweithio i sefydliad dielw hawliau dynol menywod.[4] Yna, yn 2015 dysgodd am ddyfarniad llys yn Den Haag yn gorchymyn i Lywodraeth yr Iseldiroedd leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Wedi'i ysbrydoli gan yr achos, symudodd Khan i Lundain i ymuno â thîm cyfreithiol Urgenda Foundation yn 2016.[5][5][6]

Cyd-sefydlodd Khan y Rhwydwaith Ymgyfreitha Hinsawdd gyda Sefydliad Urgenda i gefnogi achosion hinsawdd ledled y byd. Trwy'r sefydliad, mae hi wedi helpu grwpiau o ymgyrchwyr i siwio eu llywodraethau eu hunain yn llwyddiannus.[7] Mae'n delio ag achosion ledled y byd, gan gynnwys Canada, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Norwy, Pacistan a De Korea.[7]

Cefnogodd achosion llys yn yr Iseldiroedd ac Iwerddon, achosion a lwyddodd i herio digonolrwydd cynlluniau'r llywodraeth i leihau allyriadau.[7][8] Yn Rhagfyr Rhagfyr 2019, yn achos yr Iseldiroedd v. Urgenda, gorchmynnodd Goruchaf Lys yr Iseldiroedd i’r llywodraeth leihau capasiti gorsafoedd pwerdai glo a goruchwylio oddeutu EUR3 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer torri allyriadau carbon.[7]

Disgrifiwyd y fuddugoliaeth gan y Guardian fel "yr achos cyfreithiol mwyaf llwyddiannus ar newid hinsawdd a chyfreitha newid hinsawdd hyd yma."[9]

Yn Awst 2020, yn Cyfeillion Amgylchedd Iwerddon yn erbyn Llywodraeth Iwerddon (neu'r hyn a elwir yn aml yn "Achos Hinsawdd Iwerddon", dyfarnodd Goruchaf Lys Iwerddon fod yn rhaid i'w lywodraeth wneud cynllun newydd a mwy uchelgeisiol i leihau carbon.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Tessa Khan". Climate Breakthrough Project (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  2. Harvey, Fiona (2020-06-12). "Climate crisis to blame for $67bn of Hurricane Harvey damage – study". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  3. "Climate Breakthrough Awardees". Climate Breakthrough Project (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  4. "Tessa Khan". Climate Breakthrough Project (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  5. 5.0 5.1 "Meet 15 Women Leading the Fight Against Climate Change". Time. Cyrchwyd 2021-03-14.
  6. Timperley, Jocelyn (July 8, 2020). "The law that could make climate change illegal". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Kusmer, Anna (August 13, 2020). "Activists took the Irish govt to court over its national climate plan — and won". The World from PRX (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  8. Khan, Tessa (2020-08-16). "Tessa Khan: 'Litigation is a powerful tool in the environmental crisis'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  9. Watts, Jonathan (2020-04-24). "Dutch officials reveal measures to cut emissions after court ruling". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.