Tajerouine
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | El Kef |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 35.89164°N 8.552899°E |
Cod post | 7150 |
Tref a chymuned yn Nhiwnisia yw Tajerouine (Arabeg: تاجروين), a leolir yng ngogledd-orllewin y wlad yn nhalaith (gouvernorat) El Kef. Gorwedd y dref 35 cilometr i'r de o dref El Kef ar y briffordd rhwng y dref honno a Kasserine, wrth droed mynydd Djebel Slata (1,103 m) ym mynyddoedd Dorsal Tiwnisia.
Mae'n ganolfan ardal amaethyddol ac yn ganolfan weinyddol i'r ardal (délégation) leol sydd â 30,659 (2006). Mae tua 7,200 o bobl yn byw yn y dref ei hun.[1]
Yn ogystal ag amaethyddiaeth, prif ddiwydiant Tajerouine yw cynhyrchu crochenwaith a wneir o'r clai lleol, sydd o ansawdd uchel, a gwaith siment Oum El Khélil.
O gwmpas Tajerouine ceir sawl fferm bridio ceffylau ac mae'r dref yn adnabyddus yn y wlad am ei gŵyl ceffylau flynyddol.
Er nad yw Tajerouine ei hun yn dref hanesyddol, mae safle Bwrdd Jugurtha gerllaw lle safodd y Brenin Jugurtha, un o arweinwyr mwyaf y Berberiaid, yn erbyn y Rhufeiniaid ar ddiwedd y ganrif 1af OC. Gyda phentref Kalaat Senan, mae'r dref yn fan cychwyn ar gyfer teithio i ben y mynydd hwnnw, sy'n gorwedd ger y ffin rhwng Tiwnisia ac Algeria.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-28. Cyrchwyd 2010-05-18.