Tafarndy'r Golden Lion, Wrecsam
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam, Offa |
Sir | Rhos-ddu |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 81 metr |
Cyfesurynnau | 53.0452°N 2.99211°W |
Cod post | LL13 8HP |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Tafarn hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Golden Lion.
Lleoliad[golygu | golygu cod]
Cyfeiriad y Golden Lion yw Rhifau 12-13, Stryt Fawr. Mae'r darfan yn sefyll ar ochr ogleddol y Stryt Fawr, rhwng dau adeilad pwysig a mawreddog, sef Marchnad y Cigyddion a'r adeilad Banc Midland (rhifau 14-15).
Hanes[golygu | golygu cod]
Mae'r adeilad yn dyddio yn ôl i'r 16eg ganrif. Tŷ eithaf pwysig oedd o yn yr 17eg ganrif. Ail-adeiladwyd y tŷ yn rhannol yn yr 18fed ganrif.
Yn wreiddiol roedd y tŷ yn gartref i'r teulu Pulford, ond erbyn 1700 roedd o'n cael ei ddefnyddio fel tafarn. Dilynodd cyfnod o ddefnydd fel siopau, cyn i'r adeilad ddod yn dafarn eto tua 1740. [1]
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae gan yr adeilad ddwy ran – rhan flaen tri llawr a rhan gefn un llawr a hanner. Mae pasej yn rhedeg ar hyd yr adeilad, yn gyfagos i'r bar.[1]
Mae mynedfa i rwydwaith o dwneli o dan y ddinas trwy frad-ddôr ym mlaen y dafarn. [2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 "The Golden Lion Public House, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
- ↑ "First pictures of Wrexham's mysterious underground tunnels". Dailypost.co.uk. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.