Tab Hunter
Tab Hunter | |
---|---|
Ganwyd | Arthur Andrew Kelm 11 Gorffennaf 1931 Manhattan |
Bu farw | 8 Gorffennaf 2018 o thrombosis Santa Barbara |
Label recordio | Dot Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | canwr, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, nofelydd |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Plaid Wleidyddol | California Republican Party |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://tabhunter.com |
Chwaraeon |
Actor, cyflwynydd teledu, canwr pop, cynhyrchydd ac awdur Americanaidd oedd Tab Hunter (ganwyd Arthur Andrew Kelm; 11 Gorffennaf 1931 – 8 Gorffennaf 2018). Serennodd mewn mwy na 40 o ffilmiau a roedd yn seren Hollywood adnabyddus ac eilun yn y 1950au a'r 1960au, yn adnabyddus am ei ddelwedd syrffiwr penfelen Califforniaidd. Ar ei anterth roedd ganddo ei sioe deledu The Tab Hunter Show a recordiodd sengl llwyddiannus "Young Love".
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd hunanfywgraffiad Hunter, Tab Hunter Confidential: The Making of a Movie Star yn 2005, wedi ei gyd-ysgrifennu gyda Eddie Muller, ac aeth i restr y New York Times o lyfrau oedd yn gwerthu orau, fel gwnaeth y rhifyn clawr meddal yn 2007. Enwebwyd y llyfr am sawl gwobr ysgrifennu. Ail-ymddangosodd yn rhestr y New York Times am y trydydd tro ar 28 Mehefin 2015 yn ystod rhyddhau y ffilm a seiliwyd ar y llyfr.
Yn y llyfr, mae'r actor yn cydnabod ei fod yn hoyw, gan gadarnhau sïon oedd wedi cychwyn pan roedd ei yrfa ar ei anterth. Yn ôl William L. Hamilton o The New York Times, roedd adroddiadau manwl am garwriaethau honedig Hunter gyda'i ffrindiau agos Debbie Reynolds a Natalie Wood wedi eu creu yn llwyr gan adrannau cyhoeddusrwydd y stiwdios ffilm. Wrth i Wood a Hunter ddechrau carwriaeth enwog ond gwbl ffug, ac yn hyrwyddo ei heterorywioldeb ymddangosol wrth hyrwyddio eu ffilmiau, roedd gan bobl ar y tu fewn bennawd eu hunain ar gyfer yr eitem: "Natalie Wood and Tab Wouldn't."[1]
Daeth Hunter yn ddigon agos at Etchika Choureau, ei gyd-seren yn Lafayette Escadrille, a Joan Perry, gweddw Harry Cohn, i ystyried priodi, ond nid oedd yn credu y gallai gynnal priodas, a parhaodd yn ffrind platonaidd gyda'r ddau.
Yn ystod cyfnod stiwdio Hollywood, dywedodd Hunter fod bywyd yn anodd iddo, am ei fod yn byw dau fywyd ar y pryd. Roedd ganddo fywyd preifat, nad oedd yn trafod gyda unrhywun. Ac yna ei fywyd Hollywood, lle roedd yn ceisio dysgu ei grefft a llwyddo. Pwysleisiodd nad oedd y gair 'gay' yn bodoli bryd hynny ac os oedd unrhywun yn ei gwestiynau ar y mater, byddai'n mynd yn wallgo. Roedd yn gwadu ei rywioldeb yn llwyr a nid oedd yn gyffyrddus yng nghymdeithas Hollywood, heblaw am y broses waith.[2] Dywedodd yr actor fod gymaint yn cael ei ysgrifennu yn y wasg am ei rywioldeb, a'u bod yn reit greulon. Roedd gwylwyr ffilmiau eisiau cadw'r ddelwedd o'r bachgen drws nesaf, cowbois a chariadon golygus oedd e'n bortreadu.[1]
Cafodd Hunter berthynas hirdymor gyda'r actor Anthony Perkins a'r pencampwr sglefrio ffigwr Ronnie Robertson, cyn setlo gyda ei bartner am dros 35 mlynedd, y cynhyrchydd ffilm Allan Glaser.[3] Tra'n gwasanaethau yn llynges yr U.D.A. yn ystod Rhyfel Fietman, lladdwyd ei frawd Walter ar 28 Hydref 1965.
Magwyd Hunter yn ffydd Gatholig ei fam a fe barhaodd i ymarfer ei grefydd am rhan fwyaf o'i fywyd.[4][5][6] Bu farw ei fam yn 92 oed a fe'i claddwyd ym Mynwent Santa Barbara.
Derbyniodd Hunter seren ar yr 'Hollywood Walk of Fame' am ei gyfraniad i'r diwydiant cerddoriaeth.[7]
Yn 2007, cafodd Seren Golden Palm ei neilltuo iddo ar y 'Palm Springs Walk of Stars'.[8]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Hunter o gymlethdodau thrombosis gwythïen ddofn (DVT) a achosodd ataliad ar y galon ar 8 Gorffennaf 2018, tridiau cyn ei ben-blwydd yn 87 oed.[9] Yn ôl ei bartner, Glaser, roedd marwolaeth Hunter yn sydyn ac annisgwyl.[10]
Disgyddiaeth a siartiau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Lleoliad siart | |
---|---|---|---|
US | UK | ||
1957 | "Young Love" | 1 | 1 |
"Red Sails In The Sunset" | 57 | — | |
"Ninety-Nine Ways" | 11 | 5 | |
"Don't Get Around Much Anymore" | 74 | — | |
1958 | "Jealous Heart" | 62 | — |
1959 | "(I'll Be With You) In Apple Blossom Time" | 31 | — |
"There's No Fool Like A Young Fool" | 68 | — |
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn[11] | Ffilm | Cymeriad | Nodiadau |
---|---|---|---|
1950 | The Lawless | Frank O'Brien | rhyddhawyd hefyd dan y teitl The Dividing Line |
1952 | Island of Desire | Marine Corporal Michael J. "Chicken" Dugan | rhyddhawyd hefyd dan y teitl Saturday Island |
1953 | Gun Belt | Chip Ringo | |
1953 | The Steel Lady | Bill Larson | rhyddhawyd hefyd dan y teitl Treasure of Kalifa |
1954 | Return to Treasure Island | Clive Stone | |
1954 | Track of the Cat | Harold Bridges | |
1955 | Battle Cry | Danny Forrester | |
1955 | "While We're Young" | Gig Spevvy | Pennod o Ford Television Theatre, gyda Claudette Colbert |
1955 | "Fear Strikes Out" | Jimmy Piersall | 2 bennod o Climax! |
1955 | The Sea Chase | Cadet Wesser | |
1956 | "The People Against McQuade" | Donald McQuade | Pennod o Conflict" |
1956 | The Burning Hills | Trace Jordan | |
1956 | The Girl He Left Behind | Andy L. Shaeffer | |
1956 | "Forbidden Area" | pennod o Playhouse 90 a gyfarwyddwyd gan John Frankenheimer gyda Charlton Heston | |
1957 | "Mask for the Devil" | pennod o Climax! | |
1958 | Hans Brinker and the Silver Skates | Hans Brinker | Ffilm deledu |
1958 | "Portrait of a Murderer" | pennod o Playhouse 90 a gyfarwyddwyd gan Arthur Penn | |
1958 | Gunman's Walk | Ed Hackett | |
1958 | Lafayette Escadrille | Thad Walker | |
1958 | Damn Yankees | Joe Hardy | rhyddhawyd hefyd dan y teitl What Lola Wants yn y DU |
1959 | They Came to Cordura | Lt. William Fowler | |
1959 | That Kind of Woman | Red | Cyfarwyddwyd gan Sidney Lumet |
1960-61 | The Tab Hunter Show | Paul Morgan | Seren y gyfres |
1961 | The Pleasure of His Company | Roger Henderson | |
1961 | Summer on Ice | Ei hun | Ffilm deledu |
1962 | The Golden Arrow | Hassan | |
1962 | "Three Columns of Anger" | pennod o Saints and Sinners | |
1962 | "The Celebrity" | pennod o Combat! | |
1963 | Operation Bikini | Lt. Morgan Hayes | |
1964 | Ride the Wild Surf | Steamer Lane | |
1964 | Troubled Waters | Alex Carswell | |
1965 | City Under the Sea | Ben Harris | rhyddawyd fel War Gods of the Deep yn yr UDA |
1965 | The Loved One | Whispering Glades Tour Guide | |
1966 | Birds Do It | Lt. Porter | |
1967 | The Fickle Finger of Fate | Jerry | AKAS: El Dedo del Destino a The Cup of San Sebastian |
1967 | Hostile Guns | Mike Reno | |
1968 | Vengeance Is My Forgiveness | Sheriff Durango | |
1968 | The Last Chance | Patrick Harris | |
1969 | Bridge over the Elbe | Richard | |
1970 | The Virginian | Cart Banner | |
1971 | Hacksaw | Tim Andrews | Ffilm deledu |
1972 | Sweet Kill | Eddie Collins | |
1972 | The Life and Times of Judge Roy Bean | Sam Dodd | |
1975 | Timber Tramps | Big Swede | |
1976 | Won Ton Ton, the Dog Who Saved Hollywood | David Hamilton | |
1978 | Katie: Portrait of a Centerfold | Elliot Bender | Ffilm deledu |
1979 | The Kid from Left Field | Bill Lorant | Ffilm deledu |
1981 | Polyester | Todd Tomorrow | |
1982 | Pandemonium | Blue Grange | |
1982 | Grease 2 | Mr. Stuart | |
1982 | And They're Off | Henry Barclay | |
1982 | Natalie: A Very Special Tribute to a Very Special Lady | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu |
1985 | Lust in the Dust | Abel Wood | |
1988 | Out of the Dark | Driver | |
1988 | Grotesque | Rod | |
1988 | Cameron's Closet | Owen Lansing | |
1988 | James Stewart's Wonderful Life | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu |
1992 | Dark Horse | Perkins | |
1995 | Wild Bill: Hollywood Maverick | Ei hun | Dogfen |
1996 | Ballyhoo: The Hollywood Sideshow | Ei hun | Dogfen |
1998 | The Best of Hollywood | Ei hun/Cyflwynydd/Adroddwr | Rhaglen ddogfen ar deledu |
2002 | Elvis Forever | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu am Elvis Presley |
2003 | Rita | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu am Rita Hayworth |
2007 | The Brothers Warner | Ei hun | Dogfen |
2008 | Hollywood Singing and Dancing: A Musical Treasure | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu |
2008 | Hollywood Singing and Dancing: A Musical History | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu |
2013 | I Am Divine | Ei hun | Rhaglen ddogfen ar deledu am ei gyd-seren a brenhines drag Divine |
2015 | Tab Hunter Confidential | Ei hun | Rhaglen ddogfen am fywyd Hunter fel eilun matinee, yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 See William L. Hamilton, "Did Success Spoil Tab Hunter?," New York Times (September 18, 2005)
- ↑ Gweler Tim Parks, "The many lives of Tab Hunter", Gay and Lesbian Times (15 Rhagfyr 2005)
- ↑ Bayard, Louis (October 9, 2005). ""The Celluloid Closet"". washingtonpost.com. Cyrchwyd January 7, 2009.
- ↑ "Interview: Tab Hunter Gets Confidential | Feature | Slant Magazine". Slant Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-14.
- ↑ Fillo, MaryEllen. "Hollywood's All-American Boy Tab Hunter Brings His Documentary To Warner Theater". courant.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-14.
- ↑ Lattanzio, Ryan (2015-10-12). "Tab Hunter, Out of the Hollywood Closet and in His Own Words". IndieWire (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-14.
- ↑ "Tab Hunter". latimes.com. Cyrchwyd March 8, 2016.
- ↑ "Palm Springs Walk of Stars by date dedicated" (PDF). Palmspringswalkofstars.com. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar October 13, 2012. Cyrchwyd August 17, 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Veteran Hollywood actor Tab Hunter dies aged 86". Independent.co.uk. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-10. Cyrchwyd 2018-07-10.
- ↑ "Tab Hunter". IMDb. Cyrchwyd 2018-03-14.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Tab Hunter g
- Tab Hunter ar wefan Internet Movie Database
- Tab Hunter ar Gronfa Ddata Rhyngrwyd Broadway
- Disgyddiaeth Tab Hunter ar Discogs
- Gwefan ffan Tab Hunter
- 2009 Cyfweliad teledu hanner awr yn 2009
- Cyfweliad Tab Hunter, Hydref 2015