Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcráin
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcrain)
| Enghraifft o: | men's national association football team |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Dechrau/Sefydlu | 1991 |
| Perchennog | Ukrainian Association of Football |
| Enw brodorol | Збірна України з футболу |
| Gwladwriaeth | Wcráin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03ytp3 |
| Quora | Ukraine-national-football-team |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcráin (Wcreineg: Збірна України з футболу) yn cynrychioli Wcráin yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Wcráin (Wcreineg: Федерація Футболу України) (FFU), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFU yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd nes 1991 roedd chwaraewr o Wcráin yn cynrychioli yr Undeb Sofietaidd ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Wcráin yn aelod o UEFA a FIFA ym 1992[1].
Llwyddodd Wcráin i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2006 yn ogystal â chynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012 ar y cyd gyda Gwlad Pwyl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| ||||||||