Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig
Ganwyd 25 Rhagfyr 1803 Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Medi 1891 Edit this on Wikidata (87 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Tad Syr John Owen Edit this on Wikidata

Roedd Syr Hugh Owen Owen, ail farwnig (ganwyd yn Hugh Owen Lord) (25 Rhagfyr 18035 Medi 1891) yn dirfeddiannwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Penfro ar ddau achlysur rhwng 1826 a 1838 a rhwng 1861 a 1868 [1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Owen yn fab i Syr John Owen, Barwnig 1af, a Charlotte merch y Parch John Lewes Philips. Pan fu farw cefnder Syr John, Syr Hugh Owen, 6ed Barwnig Orielton, heb etifedd aeth ei ystâd i John Lord a newidiodd cyfenw ei deulu i Owen o dan delerau'r ewyllys.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen

Ym 1825 priododd Angelina Cecilia merch Syr Charles Morgan, Tŷ Tredegar, Casnewydd; bu iddynt pum mab a phedair merch. Wedi marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1844 priododd Henrietta Fraser merch yr Anrhydeddus Edward Rodney ym 1845 bu iddynt un mab a thair merch.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Owen i'r senedd am y tro cyntaf fel aelod Torïaidd etholaeth Penfro ym 1828 gan dal y sedd hyd 1838, roedd ei dad yn aelod dros y Sir trwy gydol yr un cyfnod. Prin oedd ei gyfraniadau i'r senedd yn y cyfnod hwn a phan oedd yn cyfrannu tueddai dilyn llinell ei dad.

Yn etholiad cyffredinol 1838 collodd Syr James Graham, Prif Arglwydd y Llynges ei sedd yn Swydd Cumberland a mynnodd Syr John Owen bod Hugh yn ymneilltuo o'i sedd er mwyn caniatáu i Graham dychwelyd i'r senedd. Yn etholiad cyffredinol 1841 penderfynodd Syr James sefyll yn etholaeth Dorchester; penderfynodd Syr Hugh sefyll eto i geisio ennill ei hen le yn ôl. Roedd Syr John yn wynebu gwrthwynebiad cryf yn etholaeth Sir Benfro pan benderfynodd John Cambell, Is Iarll Emlyn a mab iarll Cawdor ei fod o am sefyll dros a Sir, heb obaith o ariannu ymgyrch cyfatebol i un yr Is-Iarll penderfynodd Syr John, hefyd, sefyll dros y Bwrdeistref; y tad fu'n fuddugol.

Yn etholiad 1857 penderfynodd Syr John i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn hytrach na Cheidwadol a bu'n cynrychioli Penfro fel Rhyddfrydwr hyd ei farwolaeth ym 1861. Ar farwolaeth Syr John safodd Syr Hugh fel ymgeisydd Rhyddfrydol gan ennill y sedd mewn ornest yn erbyn ymgeisydd Ceidwadol, Thomas Charlton-Meyrick gan gadw'r sydd hyd iddo gael ei drechu gan Charlton-Meyrick ym 1868.[2]

Rhwng 1872 a 1889 bu'n gweithio fel Aide-de-camp i'r Brenhines Victoria.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Barnes, Llundain. Etifeddwyd y farwnigaeth gan ei fab Hugh Charles Owen.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. History of parliament online OWEN, Hugh Owen (1803-1891), of Williamston and Llanstinan, Pemb. [1] adalwyd 25 Ion, 2016
  2. Williams, William Retlaw; The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 [2] adalwyd 25 Ion, 2016
  3. "DEATHOFSIRHUGHOWENOWEN - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1891-09-19. Cyrchwyd 2016-01-25.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Hensleigh Allen
Aelod Seneddol Penfro
18261838
Olynydd:
James Robert George Graham
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Owen
Aelod Seneddol Penfro
18611868
Olynydd:
Thomas Charlton-Meyrick