Thomas Charlton-Meyrick

Oddi ar Wicipedia
Thomas Charlton-Meyrick
Ganwyd14 Mawrth 1837 Edit this on Wikidata
Castell Apley Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 1921 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadSt. John Chiverton Charlton Edit this on Wikidata
MamJane Sophia Meyrick Edit this on Wikidata
PriodMary Rhoda Hill Edit this on Wikidata
PlantRachel Cicely Meyrick, Dora Rhoda Meyrick, Alice Maude Meyrick, Eva Mary Meyrick, Sir Frederick Charlton Meyrick, 2nd Baronet, St. John Meyrick, Rowland Francis Meyrick, Herbert Cheverton Meyrick, Walter Thomas Meyrick Edit this on Wikidata

Roedd y Cyrnol Syr Thomas Charlton-Meyrick, (14 Mawrth 183731 Gorffennaf 1921) yn filwr a thirfeddiannwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Penfro rhwng 1868 a 1874[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Thomas Charlton yng Nghastell Apley, Hadley, Swydd Amwythig, yn fab i St John Chiverton Charlton, bonheddwr, a Jane Sophia Meyrick ei wraig. Roedd Jane yn ferch ac etifedd i Thomas Meyrick ystâd Bush, Doc Penfro. Ym 1858, etifeddodd Thomas Charlton ystâd ei dad-cu pan gyrhaeddodd 21in mlwydd oed (oedran dyfod yn oedolyn ar y pryd)[2], a newidiodd ei enw i Charlton-Meryck trwy drwydded frenhinol yn unol â gofynion ewyllys ei dad cu[3]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.

Ym 1860 priododd Mary Rhoda merch y Cyrnol F. Hill. Bu iddynt pum mab a thair merch.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Castell Apley

Wedi etifeddu ystâd ei dad cu bu'n gweithio am weddill ei oes fel tirfeddiannwr. Roedd tiroedd ystâd y Bush yn cynnwys y tiroedd yr adeiladwyd dociau Penfro a phentref Doc Penfro arnynt. Wedi marwolaeth ei frawd ym 1873 daeth i feddiant ystadau'r teulu yn Swydd Amwythig hefyd. Gan fod Charlton-Meyrick wedi etifeddu ystâd y Bush, trwy gyfran ei fam, ar y dybiaeth na fyddai'n etifeddu ystâd ei dad, Castell Apley, yn Swydd Amwythig; bu achos llys gan berthnasau oedd yn hawlio nad oedd ganddo hawl i gadw'r Bush ar ôl etifeddu Castell Apley. Methodd yr achos a chadwodd Charlton-Meyrick perchenogaeth o'r ddwy ystâd[4].

Bu'n gwasanaethu fel Cyrnol ac yna fel Cyrnol Anrhydeddus ar 3ydd bataliwn Catrawd Troedfilwyr Ysgafn Swydd yr Amwythig, gan wasanaethu gyda'r gatrawd yn yr Iwerddon ac yn ystod Rhyfeloedd y Boer yn Ne Affrica[5].

Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar feinciau Sir Benfro a Swydd Amwythig

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Wedi marwolaeth Syr John Owen AS Ceidwadol Penfro ym 1861 dewiswyd Charlton-Meyrick i amddiffyn y sedd yn yr isetholiad canlynol. Bu'n aflwyddiannus a chollwyd y sedd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol (mab y diweddar aelod) Syr Hugh Owen Owen.

Safodd Charlton-Meyrick eto yn etholiad cyffredinol 1868 gan lwyddo i gipio Penfro yn ôl i'r Ceidwadwyr. Yn yr etholiad cyffredinol canlynol, etholiad 1874, collodd y sedd i'r Rhyddfrydwyr. Codwyd deiseb i herio tegwch yr etholiad, ond fe'i ataliwyd ychydig ddyddiau cyn dyddiad yr achos llys i'w hystyried [6]

Safodd eto yn etholiad cyffredinol 1880 gan fethu yn ei ymgais i adfer ei sedd.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1877

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ym 1880 cafodd Charlton-Meyrick ei greu'n Farwnig[7]. Fe'i gwnaed yn Gymrawd Urdd y Baddon (CB) ym 1898[8] gan gael ei ddyrchafu yn Farchog Cadlywydd o’r Urdd (KCB) ym 1910[9].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Castell Apley, yn 84 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Wellington, Swydd Amwythig[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Charlton-Meyrick, Col Sir Thomas, (14 March 1837–31 July 1921), JP, DL. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. 2007-12-01. Oxford University Press. Adalwyd 28 Rhagfyr 2017
  2. "MAJORITY OF THOMAS CHARLTON ESQ - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1858-04-09. Cyrchwyd 2017-12-28.
  3. The London Gazette 9 Ebrill 1858 rhif: 22125 Tudalen:1793 adalwyd 29 Rhagfyr 2017
  4. "LOCALLAWCASE - The Tenby Observer Weekly List of Visitors and Directory". Richard Mason. 1874-02-12. Cyrchwyd 2017-12-29.
  5. "SHROPSHIRE MILITIA TO GO TO EGYPT - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-12-29. Cyrchwyd 2017-12-29.
  6. "WITHDRAWAL OF THE PEMBROKE ELECTION PETITION - The Western Mail". Abel Nadin. 1874-04-30. Cyrchwyd 2017-12-29.
  7. The London Gazette 30 Ebrill 1880 Rhif:24840 Tudalen:2786 adalwyd 29 Rhagfyr 2017
  8. The London Gazette 14 Mawrth 1898 Rhif:26947 Tudalen:1686[dolen marw] adalwyd 29 Rhagfyr 2017
  9. The London Gazette 23 Mehefin 1910 Rhif:28388 Tudalen:4476 adalwyd 29 Rhagfyr 2017
  10. Birmingham Daily Gazette 03 Awst 1921
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Hugh Owen Owen
Aelod Seneddol Penfro
18681874
Olynydd:
Syr Edward James Reed