Neidio i'r cynnwys

Synagog Unedig Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Hen synagog Caerdydd

Synagog Unedig Caerdydd (Saesneg: Cardiff United Synagogue) yw cymuned (synagog) Iddewig Uniongred Caerdydd, prifddinas Cymru.

Roedd cymuned Iddewig yn bodoli yng Nghaerdydd yn 1841, pan roddodd Ardalydd Bute dir yn ardal Highfield ar gyfer mynwent Iddewig. Mae'r synagog yn deillio o'r Hen Gymuned Hebreaidd (Old Hebrew Congregation), a gododd adeilad synagog yn Stryd y Drindod yn 1853, Synagog Stryd Biwt 1858.[1] Stryd Biwt (Bute Street) oedd canolfan y gymuned Iddewig yn y 19g.[2]

Roedd hen synagogau neu gymunedau eraill yn y brifddinas yn cynnwys.[3]

Hen Gymuned Hebreaidd,
Stryd y Drindod (1853–1858)
East Terrace, Stryd Biwt (1858–1897; ailadeiladu 1888)
Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, (1897–1989)
Newydd (Uniongred)
Edwards Place (1889–1900)
Merches Place (1900–?)
Windsor Place (1918–1955)
Tŷ Gwyn Road, Penylan (1955–2003)

Y mwyaf arbennig o'r adeiladau o ran pensaernïaeth oedd synagog arddull clasurol Windsor Place. Prynwyd rhan o'r adeiladwaith yn 1979 a'i droi yn deml Hindŵaidd.[4] Gyda'r lleihad yn y gymuned Iddewig a cholli'r hen ganolfannau, ymsefydlodd y gymuned yng Ngerddi Cyncoed, a gysegrwyd gan y Prif Rabbi Jonathan Sacks yn 2003.[5] Mae côr yr adeilad yn nodweddiadol.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cardiff:The Building of a Capital". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-07. Cyrchwyd 2009-09-16.
  2. Geoffrey Alderman, Modern British Jewry (Rhydychen, 1998), t. 26.
  3. Jewish Communities and Records – United Kingdom
  4. Raymond Brady Williams, An Introduction to Swaminarayan Hinduism (Caergrawnt, 2001), t. 222.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-10. Cyrchwyd 2009-09-16.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-21. Cyrchwyd 2009-09-16.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]