Svetla Vassileva

Oddi ar Wicipedia
Svetla Vassileva
Ganwyd1 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
Pleven Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Bwlgaria Bwlgaria
Alma mater
  • Prifysgol Herzen
  • Prifysgol Sofia Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur Edit this on Wikidata

Awdures o Fwlgaria yw Svetla Vassileva (neu weithiau Vasileva, Bwlgareg: Светла Василеваganwyd; ganwyd 1 Ebrill 1964). Ei gwaith beunyddiol yw rhoi cyhoeddusrwydd i gwmni, fel cyhoedduswr (publicist) drwy flogio ayb.

Fe'i ganed yn Pleven yng ngogledd Bwlgaria ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill, 1964. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Herzen a Sefydliad Ymchwil Gwyddonol Sofia yn y brifddinas.[1][2][3] Mae Vassileva yn gyd-sylfaenydd sawl cymdeithas ddi-elw.

Gwaith academaidd[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd draethawd hir ar "Gynnwys plant cyn-ysgol a gwerthoedd moesol cyffredinol." Vassileva yw cyd-awdur "Y cysyniad ar gyfer datblygu addysg cyn-ysgol gyhoeddus ym Mwlgaria", "Cysyniad ar gyfer cymdeithasu plant Romani dan anfantais gymdeithasol" (dan nawdd UNICEF), "Papur Gwyn ar Pravets" (2010) a'r llyfr Pravets. Cronicl y ddinas breifat (2011). Tref yng nghanol Bwlgaria yw Pravets.

Mae hi'n awdur dwsinau o erthyglau ar faterion cyfoes bywyd cyhoeddus yn y cyfnod o gyfnewid, pan drodd Bwlgaria i ddemocratiaeth a chyfalafiaeth; cyhoeddwyd yr erthyglau hyn yn y cyfryngau ac mewn print mewn Bwlgareg ac ar gyfryngau cymdeithasol mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys cyhoeddiadau'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â'i blog personol.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Koleva, Irina. Koncepcija za socializacija na deca ot romski proischod v neravnostojno socialno položenie : v uslovijata na detskata gradina [Concept socialization of Roma children in socially disadvantaged], S., 1994, ISBN 954-8525-02-X, co-author
  • Tsvetkov, Pavlin; Vasileva, Svetla; Nikolova, Proletina (2011). Правец. Хрониките на частния град [Pravets. Chronicles of the private city] (yn Bwlgareg). Сдружение за насърчаване на гражданска активност. ISBN 978-954-92718-1-2.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Derbyniodd y "Golden Key" ar gyfer 2014 yng nghategori "newyddiaduraeth" y Rhaglen Mynediad at Wybodaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb15104819m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb15104819m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Radio otzvuk
  4. "Lukoil Bulgaria and a climate of fear in Pravets". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 2012-03-07. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)