Susanne Lothar
| Susanne Lothar | |
|---|---|
| Ganwyd | 15 Tachwedd 1960 Hamburg |
| Bu farw | 21 Gorffennaf 2012 Berlin |
| Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor teledu, actor llwyfan, actor ffilm |
| Tad | Hanns Lothar |
| Mam | Ingrid Andree |
| Priod | Ulrich Mühe |
| Plant | Sophie Mühe |
| Gwobr/au | Medal Kainz |
Actores ffilm, teledu a llwyfan o'r Almaen oedd Susanne Lothar (15 Tachwedd 1960 - 21 Gorffennaf 2012). Roedd hi’n aelod o gwmni theatr Deutsches Schauspielhaus yn Hamburg ac mae ei pherfformiadau’n cynnwys rhannau yn nramâu Lulu gan Frank Wedekind. Enillodd Lothar y wobr am yr actores ifanc orau yng Ngwobrau Ffilm yr Almaen am ei ffilm gyntaf Eisenhans. Ymddangosodd gyda’i gŵr go iawn, Ulrich Mühe, fel y pâr priod erlidiedig yn y fersiwn wreiddiol o Funny Games gan Michael Haneke. Gweithiodd Lothar eto gyda Haneke yn The Castle, fel Mrs Schober yn The Piano Teacher, a The White Ribbon.[1]
Ganwyd hi yn Hamburg yn 1960 a bu farw ym Merlin yn 2012. Roedd hi'n blentyn i Hanns Lothar ac Ingrid Andree. Priododd hi Ulrich Mühe yn 1997.[2][3][4]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Susanne Lothar yn ystod ei hoes, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Susanne Lothar". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Susanne Lothar". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanne Lothar ist tot". Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2012. "Susanne Lothar". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.