Susan Faludi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Susan Faludi
Susan Faludi.JPG
Ganwyd 18 Ebrill 1959 Edit this on Wikidata
Queens Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Hwngari Hwngari
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaeth ysgrifennwr, ffeminist, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Priod Russ Rymer Edit this on Wikidata
Gwefan http://susanfaludi.com/index.html Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Susan Faludi ( /fəˈldi /; ganwyd 18 Ebrill 1959) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ffeminist a newyddiadurwr.[1][2] Mae'n briod â'i chyd-awdur Russ Rymer.

Fe'i ganed yn Queens, bwrdeisdref yng ngorllewin Dinas Efrog Newydd ar 18 Ebrill 1959. Enillodd Wobr Pulitzer am Newyddiaduraeth Esboniadol ym 1991, am adroddiad ar bryniant isel Safeway Stores, Inc., adroddiad roedd gweinyddwyr pwyllgor Gwobr Pulitzer yn ei ganmol am ddarlunio "effaith negyddol arian ar ddyn". Derbyniodd Wobr Kirkus yn 2016 hefyd am In the Darkroom. [3][4][5]

Ganwyd hi i Marilyn (Lanning), newyddiadurwr, a Stefánie Faludi (a alwyd wedyn yn Steven Faludi) a oedd yn ffotograffydd. Roedd Stefánie Faludi wedi ymfudo o Hwngari, yn Iddew ac yn oroeswr yr Holocost, a ddatgelodd ei bod yn drawsrywiol ac yn fu farw yn 2015. Mae gan Susan Faludi ddinasyddiaeth ddeuol: UDA a Hwngari.

Graddiodd Susan o Brifysgol Harvard gydag A.B. summa cum laude yn 1981, lle cafodd ei hethol i Phi Beta Kappa ac ysgrifennodd ar gyfer The Harvard Crimson, a daeth yn newyddiadurwr, gan ysgrifennu ar gyfer The New York Times, Miami Herald, Atlanta Journal Constitution, San Jose Mercury News, a The Wall Street Journal a nifer o gyhoeddiadau eraill.

Trwy gydol yr 1980au, ysgrifennodd Faludi sawl erthygl ar ffeministiaeth a pahm fod pobl yn gwrthwynebu'r mudiad. Wrth weld patrwm yn dod i'r amlwg, ysgrifennodd Faludi Backlash, a ryddhawyd ddiwedd 1991. Yn 2008–2009, fe'i gwnaed yn gymrawd yn y Radcliffe Institute for Advanced Study, ac yn ystod blwyddyn academaidd 2013–2014, hi oedd yr Ysgolhaig Tallman yn y Rhaglen Astudiaethau Rhyw a Menywod yng Ngholeg Bowdoin. Ers Ionawr 2013, mae Faludi wedi bod yn olygydd cyfrannol i'r cylchgrawn The Baffler yn Cambridge, Massachusetts. Yn 2017, dyfarnwyd iddi radd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Stockholm yn Sweden.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Faludi, Susan (1991). Backlash: The Undeclared War Against American Women. New York: Crown.
  • Faludi, Susan (1999). Stiffed: The Betrayal of the American Man. New York: William Morrow.
  • Faludi, Susan (2007). The Terror Dream: Fear and Fantasy in Post-9/11 America. New York: Metropolitan Books.
  • Faludi, Susan (2016). In the Darkroom. New York: Metropolitan Books.

Ysgrifau ac adroddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Goldberg, Michelle (16 Mehefin 2016). "Susan Faludi's 'In the Darkroom'". The New York Times. https://www.nytimes.com/2016/06/19/books/review/susan-faludis-in-the-darkroom.html.
  2. Dean, Michelle (17 Mehefin 2016). "Susan Faludi: the feminist writer on trans issues, Donald Trump and masculinity". The Guardian. https://www.theguardian.com/world/2016/jun/17/susan-faludi-feminist-writer-in-the-darkroom-trans.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122968667; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm2306412, https://www.imdb.com/, adalwyd 17 Hydref 2015Wikidata Q37312
  5. "C. E. Morgan". 2016 Kirkus Prize Winner in Fiction. 29 Chwefror 2016. Cyrchwyd 2 Mawrth 2016.