Stumog
Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ anifail, organ gyda cheudod organ, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | llwybr gastroberfeddol |
Cysylltir gyda | oesoffagws, coluddyn bach, dwodenwm |
Yn cynnwys | fundus, body of stomach, pyloric part, cardia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Organ ar ffurf bag o gyhyrau ydy'r stumog, ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o famaliaid. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'r system dreulio. Daw o'r gair Lladin stomachus (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder".[1]
Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio'n bennaf ar stumogau dynol, er bod cryn debygrwydd rhyngddo â'r rhan fwyaf o anifeiliaid,[2] ar wahân i'r fuwch sy'n hollol wahanol.[3]
Ei bwrpas
[golygu | golygu cod]Mae tri phrif bwrpas i'r stumog: lladd bacteria, torri'r darnau bwyd yn ddarnau llai er mwyn cael mwy o arwynebedd a chynnal y bwyd am oriau a'i ollwng yn araf ac yn gyson. Ceir hylif asidig cryf ynddo i wneud y gwaith hwn, asid hydroclorig ydy hwnnw gyda pH o rhwng 1 a 2 - yn dibynnu ar ffactorau megis pa ran o'r diwrnod ydyw, y swm o fwyd a fwytawyd, cynnwys arall megis cyffuriau a ffactorau eraill. Yn yr hylif hwn y torrir y moleciwlau mawr yn rhai llai, fel y rhan gyntaf o'r broses dreulio - cyn gwthio'r bwyd i'r cam nesaf sef y coluddyn bach. Mae'r stumog ddynol yn creu rhwng 2.2 a 3 litr o'r asid gastrig hwn y dydd. Mae mwy ohono'n cael ei greu fin nos nac yn y bore. Gall y stumog ddal rhwng 2 a 4 litr o fwyd, gan ymestyn pan fo raid.