Steve Bannon
Mae Stephen Kevin Bannon, Steve Bannon (ganed, Norfolk 27 Tachwedd 1953) yn gynhyrchydd ffilm, newyddiadurwr, gwleidydd ac ef oedd phrif strategydd ymgyrch Arlywyddol yr Unol Daleithiau, Donald Trump o 20 Ionawr i 18 Awst, 2017.
Personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed Stephen Kevin Bannon yn Norfolk, Virginia yn fab i Doris Herr a Martin Bannon, gosodwr ceblau ffôn. Roedd y teulu yn rhan o'r "dosbarth gweithiol", yn Gatholig Gwyddelig a chefnogwyr blaid Ddemocraidd[1]. Wedi graddio mewn cynllunio trefol yn 1976 o Brifysgol Virginia Tech, enillodd radd meistr mewn Astudiaethau Diogelwch Cenedlaethol o Brifysgol Georgetown. Yn 1985 cafodd MBA gydag anrhydedd o Ysgol Fusnes Harvard. O ddiwedd y 70au hyd at y 80au cynnar roedd yn swyddog morwrol ar long ddinistiwr Americanaidd, yr USS Paul F. Foster.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu Bannon yn gyfarwyddwr gweithredol o Breitbart News, gwefan barn, newyddion asgell dde[2]. Disgrifiodd Bannon y wefan fel llwyfan ar gyfer yr Alt-dde.[3]
Bu'n is-lywydd bwrdd y cwmni dadansoddi data, Cambridge Analytica. Dyma'r cwmni bu'n gweithio ar yr ymgyrch arlywyddol Donald Trump yn 2016 gan ddefnyddio data ddefnyddwyr Facebook mewn ffordd[4][5]. Ariennir y cwmni yn bennaf gan deulu Mercer Foundation Teulu, cyd-berchennog Breitbart[6].
Yn ystod yr etholiadau yn 2016 oedd y cydlynydd ymgyrch Trump, a 29 Ionawr 2017 daeth yn aelod o Gyngor y Llywodraeth ar gyfer y Diogelwch Cenedlaethol Trump.
Ar 5 Ebrill 2017 tynnwyd Bannon oddi ar y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol. Priodolodd Bannon y penderfyniad hyn i fuddugoliaeth o blaid ceisio rhoi gwedd 'gymhedrol' o dan arweiniad Ivanka Trump, merch yr Arlywydd Trump, a ddaeth yn rhan swyddogol o'r staff Tŷ Gwyn yn ystod yr wythnos cyn y diarddel Bannon[7]
Ar 18 Awst 2017 rhyddhawyd Bonnon o'i swydd fel prif strategydd yn y Tŷ Gwyn. Y diwrnod canlynol, dychwelodd Bannon fel llywydd gweithredol yn Breitbart News[8].
Ar 9 Ionawr 2018 gadawodd Newyddion Breitbart; mae hyn oherwydd y datguddiadau a adroddwyd yn y llyfr "Fire and Fury" lle fe feirniadodd Ivanka Trump a'i gŵr Jared Kushner. Mae'r penderfyniad yn deillio o fygythiad o golli cefnogaeth ariannol sylweddol gan y biliwnydd Rebekah Mercer, oherwydd barn Bannon o'r y teulu Trump a sgadal 'Russiagate' (lle nodwyd bod Trump wedi cydweithio gyda'r Rwsiaid i ennill yr Arlywyddiaeth.
Athroniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Economeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Bannon yn hyrwyddo lleihau mewnfudo[9] a chyfyngderau ar farchnad rydd, yn enwedig gyda Xeina a Mecsico.[10][11] Mae'n ffafrio codi trethi ffederal UDA i 44% i rai sy'n ennill dros $5 miliwn y flwyddyn er mwyn talu am dorri trethi i'r dosbarth canol.[12] Mae hefyd yn gefnogol i gynyddu gwariant cyhoeddus ar is-adeiladedd, gan ddisgrifio ei hun fel "the guy pushing a trillion-dollar infrastructure plan".[13] Mae Bannon yn wrthwynebus i'r wlad yn rhoi 'bailout' i fusnes gan eu disgrifio fel "socialism for the very wealthy".[14]
Rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar y cyfan, mae Bannon yn sgeptig o ymyraeth filwrol yr UDA mewn gwledydd tramor gan wrthwynebu ymestyn ymyraeth America yn Afghanistan[15] y Rhyfel yn Syria,[16] ac argyfwng Venesuela.[17] Fel Prif Strategydd y Tŷ Gwyn, gwrthwynebodd ymosodiad ar Syria, ond uwch-benderfynwyd drosto gan Jared Kushner, Prif Gynghorydd i'r Arlywydd, Donald Trump.[18]
Pleidiau Cenedlaetholaidd Asgell Dde Tramor[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Bannon wedi bod yn gefnogol o bleidiau a mudiadau cenedlaetholaidd asgell dde Ewrop fel y Front Natonal yn Ffrainc, Gert Wilders yn yr Iseldiroedd, yr AfD, Alternative für Deutschland yn yr Almaen, y Lega yn yr Eidal, Freiheitspartei yn Awstria a'r SVP (Plaid Pobl Swistir) a Victor Orbán Prif Weinidog Hwngari.[19] Mae Bannon yn awyddus i weld cydweithio rhwng mudiadau'r dde genedlaetholaidd[20] mae am sefydlu rhwydwaith sefydlog.[21]
Cred Bannon yn ymladd yn erbyn mewnfudo o wledydd nad sy'n rhan o'r traddodiad 'Cristnogol', "bancwyr byd-eang"[20] . Mae wedi ei ddylanwadu gan sawl athronydd asgell lle a cheidwadol gan gynnwys Julius Evola, er fod Evola yn gwrthddweud nife o safbwyntiau Cristnogol.[22]
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ https://www.telegraph.co.uk/news/2016/11/14/steve-bannon-who-is-the-donald-trumps-chief-strategist-and-why-i/
- ↑ https://www.cbsnews.com/news/steve-bannon-and-the-alt-right-a-primer/
- ↑ https://edition.cnn.com/2016/11/16/politics/what-is-white-nationalism-trnd/
- ↑ https://edition.cnn.com/2017/10/27/politics/trump-campaign-wikileaks-cambridge-analytica/index.html
- ↑ https://www.theguardian.com/news/2018/mar/17/cambridge-analytica-facebook-influence-us-election
- ↑ https://www.politico.eu/blogs/on-media/2017/02/breitbart-reveals-owners-ceo-larry-solov-the-mercer-family-and-susie-breitbart-donald-trump-media/
- ↑ https://www.ilfattoquotidiano.it/2017/08/18/usa-nyt-trump-ha-gia-deciso-di-cacciare-bannon/3802709/
- ↑ https://www.huffingtonpost.it/2017/08/19/steve-bannon-torna-a-breitbart-la-presidenza-trump-per-la-qual_a_23152302/
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'auto5
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'wn
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'auto6
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'auto7
- ↑ http://www.hollywoodreporter.com/news/steve-bannon-trump-tower-interview-trumps-strategist-plots-new-political-movement-948747
- ↑ https://qz.com/898134/what-steve-bannon-really-wants
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'auto8
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'auto9
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'auto10
- ↑ http://dailycaller.com/2017/04/07/bannon-lost-to-kushner-in-syria-strike-debate
- ↑ https://www.thedailybeast.com/steve-bannons-dream-a-worldwide-ultra-right
- ↑ 20.0 20.1 https://www.thelocal.ch/20180307/trump-before-there-was-trump-steve-bannon-praises-swiss-right-wing-leader-christoph-blocher
- ↑ http://uk.businessinsider.com/steve-bannon-the-movement-boost-far-right-in-europe-2018-7?r=US&IR=T
- ↑ https://www.nytimes.com/2017/02/10/world/europe/bannon-vatican-julius-evola-fascism.html