René Guénon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
René Guénon
Rene-guenon-1925.jpg
René Guénon ym 1925.
FfugenwAbdel Wahed Yahia, Sheikh Abdel Wahed Yahia Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Tachwedd 1886 Edit this on Wikidata
Blois Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1951 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, metaffisegydd, athronydd, dwyreinydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCystadleuthau Cyffredinol Edit this on Wikidata
Llofnod
Assinatura Rene.svg

Athronydd Ffrengig ac ysgolhaig crefyddol oedd René Guénon (15 Tachwedd 18867 Ionawr 1951) sydd yn nodedig am hebrwng mudiad athronyddol ac ysbrydol Traddodiadaeth.

Ganed yn Blois yn fab i bensaer. Aeth i Baris ym 1904 i astudio mathemateg ac athroniaeth, ac yno bu'n aelod o gylchoedd cyfriniol ac ocwlt gan gynnwys yr Ordre Martiniste, dan arweiniad yr Hermetigydd Papus, a'r Église Gnostique. Fel un o'r Église Gnostique, mabwysiadodd y llysenw Palingenius ac ysgrifennodd sawl erthygl i'r cylchgrawn La gnose. Tynnwyd ei sylw yn fwyfwy gan grefyddau'r Dwyrain, ac ym 1912 fe drodd yn Fwslim. Cafodd ei ynydu i'r traddodiad Swffïaidd gan Ivan Aguéli (ʿAbd al-Hādī) drwy fendith y shîc Eifftaidd ʿAbd al-Raḥmān ʿIllaysh al-Kabīr. Parhaodd Guénon yn ffigur blaenllaw ym mywyd deallusol Paris, a bu'n gyfarwydd â meddylwyr ac ysgolheigion amlwg gan gynnwys yr athronydd Catholig Jacques Maritain a'r hanesydd René Grousset. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Introduction générale à l'étude des doctrines hindoues, ym 1921 ar sail ei draethawd doethurol i'r Sorbonne ar bwnc Hindŵaeth.[1]

Yn sgil marwolaeth ei wraig, aeth Guénon i'r Aifft ym 1930 a thrigai yng Nghairo am weddill ei oes. Cymerodd yr enw Mwslimaidd Shaykh ʿAbd al-Wāḥid Yaḥyā, a chafodd ddwy ferch a dau fab gyda'i ail wraig. Yn ogystal â chymdeithasu â Mwslimiaid hyddysg yn yr Aifft, bu Guénon yn gohebu ag ysgolheigion eraill o'r ysgol Draddodiadaidd ar draws y byd, yn eu plith Ananda Coomaraswamy, Marco Pallis, Leopold Ziegler, Julius Evola, a Titus Burckhardt. Teithiodd nifer o ddilynwyr Guénon, megis Frithjof Schuon, i Gairo i ofyn ei gyngor. Bu Guénon yn awdur hynod o doreithiog, ac ysgrifennodd erthyglau ac adolygiadau yn rheolaidd i'r cyfnodolyn Le Voile d'Isis (yn ddiweddarach Les études traditionelles). Bu farw René Guénon yng Nghairo yn 64 oed, a chafodd ei gladdu mewn mynwent ar gyrion y ddinas.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Introduction générale à l'étude des doctrines hindoues (1921).
  • Le théosophisme: Histoire d'une pseudo-religion (1921).
  • L'erreure spirite (1923).
  • Orient et occident (1924).
  • L'homme et son devenir selon le Vêdânta (1925).
  • L'ésotérisme de Dante (1925).
  • La crise du monde moderne (1927).
  • Le roi du monde (1927).
  • Autorité spirituelle et pouvoir temporel (1929).
  • Saint Bernard (1929).
  • Le symbolisme de la croix (1931).
  • Les états multiple de l'Être (1932).
  • La métaphysique orientale (1939).
  • La regne de la quantité et les signes des temps (1945).
  • Aperçus sur l'initiation (1946).
  • La grande triade (1946).
  • Les principes du calcul infinitésimal (1946).
  • Initiation et réalisation spirituelle (1952).
  • Aperçus sur l'ésotérisme chrétien (1954).
  • Symboles fondamenteux de la science sacré (1962).
  • Études sur l'hindouisme (1968).
  • Formes traditionelles et cycles cosmiques (1970).
  • Aperçus sur l'ésotérisme islamique et le taoisme (1973).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Seyyed Hossein Nasr, "Guénon, René" yn Encyclopedia of Religion (2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Mawrth 2021.