Môr-wennol
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Sternidae)
Môr-wenoliaid | |
---|---|
Môr-wennol Bigfelen (Thalasseus bergii) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Is-urdd: | Lari |
Teulu: | Sternidae Bonaparte, 1838 |
Genera | |
Gweler y rhestr |
Adar môr o deulu'r Sternidae yw Môr-wenoliaid. Mae'r teulu'n cynnwys tua 44 o rywogaethau a geir ledled y byd.[1] Fel rheol, mae ganddynt gynffon fforchog, fel gwennol, pig fain ac adenydd hir a chul. Mae gan y mwyafrif o rywogaethau blu gwyn neu lwyd a marciau du ar y pen. Maent yn bwydo ar bysgod ac anifeiliaid dŵr eraill ac maent yn dodwy 1–3 ŵy.[1]
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Rhestr o'r genera a rhai o'r rhywogaethau:
- Gelochelidon
- Môr-wennol Ylfinbraff (Gelochelidon nilotica)
- Hydroprogne
- Môr-wennol Fwyaf (Hydroprogne caspia)
- Thalasseus
- Môr-wennol Fawr (Thalasseus maxima)
- Môr-wennol Bigfelen (Thalasseus bergii)
- Môr-wennol Gain (Thalasseus elegans)
- Môr-wennol Gribog Leiaf (Thalasseus bengalensis)
- Môr-wennol bigddu (Thalasseus sandvicensis)
- Sternula
- Môr-wennol Fechan (Sternula albifrons)
- Môr-wennol Saunders (Sternula saundersi)
- Môr-wennol Leiaf (Sternula antillarum)
- Onychoprion
- Môr-wennol Aleutia (Onychoprion aleutica)
- Môr-wennol Ffrwynog (Onychoprion anaethetus)
- Môr-wennol Fraith (Onychoprion fuscata)
- Sterna
- Môr-wennol yr Afon (Sterna aurantia)
- Môr-wennol wridog (Sterna dougallii)
- Môr-wennol gyffredin (Sterna hirundo)
- Môr-wennol Fochwen (Sterna repressa)
- Môr-wennol y Gogledd (Sterna paradisaea)
- Môr-wennol Forster (Sterna forsteri)
- Chlidonias
- Corswennol farfog (Chlidonias hybrida)
- Corswennol adeinwen (Chlidonias leucoptera)
- Corswennol ddu (Chlidonias niger)
- Phaetusa
- Anous
- Hurtyn Cyffredin (Anous stolidus)
- Hurtyn Bach (Anous tenuirostris)
- Hurtyn Du (Anous minutus)
- Procelsterna
- Gygis
- Larosterna