Stefan Stambolov
Stefan Stambolov | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ionawr 1854 Veliko Tarnovo |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1895 (yn y Calendr Iwliaidd) Sofia |
Dinasyddiaeth | Bwlgaria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, bardd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, cyfieithydd |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Prif Weinidog Bwlgaria, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg |
Plaid Wleidyddol | People's Liberal Party |
Gwobr/au | Urdd Dewder |
Prif weinidog Bwlgaria o Awst 1887 tan Mai 1894 ac un o ffigyrau pwysicaf blynyddoedd cynnar y wladwriaeth Fwlgaraidd fodern oedd Stefan Stambolov (Bwlgareg Стефан Николов Стамболов) (31 Ionawr / 12 Chwefror 1854, Veliko Tarnovo - 6 / 18 Gorffennaf 1895, Sofia).
Arweiniodd y gwrthwynebiad i'r coup d'état a ddymchwelodd Tywysog Alexander Battenberg yn 1886, ac wedyn chwaraeodd rôl allweddol yn y gais am dywysog newydd. Penodwyd yn brif weinidog gan olynydd Alexander, Tywysog Ferdinand Saxe-Coburg-Gotha ym mis Awst 1887. Sefydlodd blaid wleidyddol, y Blaid Genedlaethol Ryddfrydol, a fyddai'n ei gefnogi yn y senedd. Yn ystod ei saith mlynedd fel prif weinidog, cryfhaodd safle Ferdinand, gan ennill consesiynau i'r Eglwys Fwlgaraidd gan yr Ymerodraeth Ottoman a threfnu briodas Ferdinand â Thywysoges Marie-Louise o Bourbon Parma. Er iddo sicrhau sefyllfa'r goron y tu fewn i Fwlgaria, methodd ag ennill cydnabyddiaeth Rwsia, oedd wedi gwrthwynebu dewis Ferdinand fel Tywysog Bwlgaria yn y lle cyntaf.
Erbyn 1893, roedd ei fethiant i wella'r berthynas rhwng Rwsia a Bwlgaria wedi dod yn amlwg, a chafodd ei ddiswyddo gan Ferdinand ar ôl iddo gael ei gyhuddo o garwriaeth â gwraig un o'i gyd-weinidogion. Penodwyd Konstantin Stoilov, cenedlaetholwr a fyddai'n anelu at ymgymodi â Rwsia, yn ei le. Y flwyddyn ganlynol, ar 3 / 15 Gorffennaf 1895, ymosodwyd arno ar y stryd yn Sofia gan elynion gwleidyddol. Bu farw dridiau yn ddiweddarach.