Stefan Żeromski
Stefan Żeromski | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
Pl-Stefan Żeromski.ogg ![]() |
Ffugenw |
Maurycy Zych, Józef Katerla, Stefan Iksmoreż ![]() |
Ganwyd |
14 Hydref 1864 ![]() Kielce ![]() |
Bu farw |
20 Tachwedd 1925 ![]() Warsaw ![]() |
Dinasyddiaeth |
Gwlad Pwyl ![]() |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, dyddiadurwr, dramodydd, awdur ffuglen wyddonol ![]() |
Adnabyddus am |
The Spring to Come ![]() |
Llinach |
Q63531310 ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Nofelydd, awdur straeon byrion, a dramodydd Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg oedd Stefan Żeromski (14 Hydref 1864 – 20 Tachwedd 1925) sydd yn nodedig am ei nofelau naturiolaidd sydd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol.
Ganed i deulu tlawd, o dras uchelwrol, yn Strawczyn, Teyrnas Pwyl, yn Ymerodraeth Rwsia. Methodd ennill ei ddiploma o'r ysgol uwchradd, felly bu'n rhaid iddo astudio yn y brifysgol filfeddygol yn Warsaw. Gweithiodd yn diwtor mewn plastai cefn gwlad ac yna yn llyfrgellydd cynorthwyol yn y Swistir. Dychwelodd i Wlad Pwyl i weithio yn Llyfrgell Zamoyski yn Warsaw o 1897 i 1904. Ymsefydlodd yn Nałęczów ym 1905, ac ymgyrchodd dros addysg boblogaidd. Fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau Rwsiaidd ym 1908. Symudodd i Baris o 1909 i 1912 cyn dychwelyd i Warsaw, ac yno bu farw yn 61 oed.[1]
Bu sawl esiampl o'i ffuglen, gan gynnwys ei ddau gasgliad cyntaf o straeon byrion a gyhoeddwyd ym 1895, yn ymwneud â chymdeithas Gwlad Pwyl yn sgil Gwrthryfel Ionawr 1863 yn erbyn y Rwsiaid. Dychwelodd at y thema honno yn ei stori fer "Echa leśne" (1905) a'r nofel delynegol Wierna rzeka (1912). Mae ei nofel gyntaf, y nofel hunangofiannol Syzyfowe prace (1897), yn portreadu profiad disgyblion Pwylaidd o Rwsieiddio diwylliannol yn yr ysgol. Ymhlith ei nofelau eraill mae Uroda życia (1913), Ludzie bezdomni (1900), Popioły (3 cyfrol, 1904), a Przedwiośnie (1925). Ysgrifennodd hefyd ddramâu, gan gynnwys Uciekła mi przepióreczka (1924).[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Stefan Żeromski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2020.
- Articles with missing Wikidata information
- Dramodwyr Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Dramodwyr Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Genedigaethau 1864
- Llenorion straeon byrion Pwylaidd y 19eg ganrif
- Llenorion straeon byrion Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Llenorion o Ymerodraeth Rwsia
- Nofelwyr Pwylaidd y 19eg ganrif
- Nofelwyr Pwylaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg
- Marwolaethau 1925