Stags Head
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.212754°N 3.990952°W |
Cod OS | SN640590 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentrefan yng nghymuned Llangeitho, Ceredigion, yw Stags Head.[1] Saif ar groesffordd y B4343 rhwng Llangeitho a a Thregaron lle mae ffordd Rufeinig Sarn Helen yn croesi'r ffordd.
Mae'n debyg bod y pentrefan wedi cymryd ei enw o hen dafarn yn y lleoliad hwn o'r enw "Stags Head". Daw'r cyfeiriad cynharaf at y dafarn o 1822 ac mae’n debyg cafodd y dafarn ei defnyddio gan borthmyn.[2]
Mae'r pentrefan wedi'i nodi ar Fap Degwm y 1840au a mapiau cynnar yr Arolwg Ordnans.[3] Nid oes cofnod o enw Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ British Place Names; adalwyd 18 Mawrth 2023
- ↑ "Englyn in praise of the Stag's Head / Englyn moliant i'r Stag's Head (Newspaper) - A Pint of History, Please". pint-of-history.wales. Cyrchwyd 8 Mawrth 2023.
- ↑ "Welsh Tithe Maps - Browse". places.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mawrth 2023.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU