Stafa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Stafa
Fingals Cave, Staffa - geograph.org.uk - 30215.jpg
Math Ynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Ynysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
Sir Argyll a Bute Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 33 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr 42 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Sea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 56.4361°N 6.3403°W Edit this on Wikidata
Hyd 0.6 cilometr Edit this on Wikidata
Perchnogaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata

Ynys sy'n un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Stafa (Saesneg: Staffa). Daw'r enw o'r Hen Lychlynneg staf, "colofn". Ynys fechan ydyw, 200 medr o led a 600 medr o hyd, ac nid oes poblogaeth barhaol. Mae tua 10 km i'r gorllewin o ynys Muile.

Mae'n gyrchfan boblogaith i dwristiaid yn yr haf oherwydd ei chlogwyni a'i hogofeydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Ogof Fingal, yn ne yr ynys, sy'n 75 medr o hyd, 14 medr o led a 22 medr o uchder. Ymwelodd y cyfansoddwr Felix Mendelssohn a'r ynys yn 1829, a chafodd ei ysbrydoli i gyfansoddi ei ddarn Ogof Fingal.

Stafa