Stadiwm Al Thumama

Oddi ar Wicipedia
Stadiwm Al Thumama
Mathstadiwm, association football pitch Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Hydref 2021 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAl Thumama Edit this on Wikidata
SirDoha Edit this on Wikidata
GwladBaner Qatar Qatar
Cyfesurynnau25.235°N 51.532°E Edit this on Wikidata
Map

Stadiwm pêl-droed yn Al Thumama, Qatar yw Stadiwm Al-Thumama (Arabeg: ملعب الثمامةMalʿab ath-Thumāma). Bydd gemau Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cael eu cynnal yn y stadiwm. [1]

Adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022[golygu | golygu cod]

Mae Stadiwm Al Thumama yn un o wyth stadiwm, sydd wedi eu hadeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar. [2] Prif Bensaer y Biwro Peirianneg Arabaidd, sef Ibrahim Jaidah, sy'n gyfrifol am y cynllun pensaernïol, [3] [4] ac fe'i hysbrydolwyd gan y taqiyah, sef cap traddodiadol sy'n cael ei wisgo gan fechgyn a dynion yn aml yn rhan o arfer crefyddol. [5] [6] [7] Mae wedi'i leoli ger Maes Awyr Rhyngwladol Hamad gyda pharc cyhoeddus 50,000 metr sgwâr o'i amgylch, [8] ac mae 40,000 o seddi yn y stadiwm. [9] Yn dilyn Cwpan y Byd FIFA 2022, bydd hanner seddi’r stadiwm yn cael eu tynnu oddi yno ac yn cael eu rhoi i wledydd eraill. [10] [11] Agorodd y stadiwm ar 22 Hydref 2021. [6] [12]

Mae adeiladu Stadiwm Al Thumama, ynghyd â stadia eraill a adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, wedi cael ei gondemnio gan nifer o sefydliadau sy'n gwarchod hawliau dynol gan gynnwys Amnest Rhyngwladol. [13] Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd llywodraeth Qatar ddiwygiadau a sefydlu isafswm cyflog ar gyfer holl weithwyr mudol y wlad gan ganiatáu iddynt newid neu adael eu swyddi heb ganiatâd cyflogwr. Fodd bynnag, mae'n ymddangos y bydd elfennau eraill o'r system a all adael cyflogwyr â rhywfaint o reolaeth dros eu gweithwyr yn aros. [14] Roedd FIFA, fel corff llywodraethu Cwpan y Byd 2022 yn gyfrifol am faterion hawliau gweithwyr yn ymwneud â'r gystadleuaeth yn y wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth, ac mewn ymateb i hyn dywedodd FIFA “Trwy ein gwaith i amddiffyn hawliau gweithwyr Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, mae FIFA a’r Goruchaf Bwyllgor yn ymwybodol o bwysigrwydd mesurau diogelu cyflogau yn y wlad a dyma pam rydym wedi rhoi systemau cadarn ar waith i atal camdrin cyflogau ar safleoedd Cwpan y Byd FIFA”. [15]

Hanes[golygu | golygu cod]

Digwyddodd urddo'r stadiwm ar Hydref 22, 2021, ar achlysur Rownd Derfynol Cwpan Emir . [16]

Cynhaliwyd chwe gêm yn y stadiwm yn ystod twrnamaint Cwpan Arabaidd FIFA 2021, gan gynnwys gêm gynderfynol [17] rhwng Qatar ac Algeria . [18]

Cwpan Arabaidd FIFA 2021[golygu | golygu cod]

Dyddiad Tîm #1 Canlyniad Tîm #2 Rownd
1 Rhagfyr 2021  Yr Aifft 1–0  Libanus Grŵp D
3 Rhagfyr 2021  Bahrain 0–0  Irac Grŵp A
6 Rhagfyr 2021  Tiwnisia 1–0  Emiradau Arabaidd Unedig Grŵp B
7 Rhagfyr 2021  Moroco 1–0  Sawdi Arabia Grŵp C
11 Rhagfyr 2021  Moroco 3–5  Algeria Rownd yr wyth olaf
15 Rhagfyr 2021  Qatar 0–1  Algeria Rownd cynderfynol

Cwpan y Byd FIFA 2022[golygu | golygu cod]

Bydd wyth gêm yn eu cynnal yn Stadiwm Al Thumama yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022. [19]

Dyddiad Tîm Rhif 1 Canlyniad Tîm Rhif 2 Rownd Presenoldeb
21 Tachwedd 2022  Senegal -  Yr Iseldiroedd Grŵp A
23 Tachwedd 2022  Sbaen -  Costa Rica Grŵp E
25 Tachwedd 2022  Qatar -  Senegal Grŵp A
27 Tachwedd 2022  Gwlad Belg -  Moroco Grŵp F
29 Tachwedd 2022  Iran -  Unol Daleithiau America Grŵp B
1 Rhagfyr 2022  Canada -  Moroco Grŵp F
4 Rhagfyr 2022 Enillwyr Grŵp D - Ail safle Grŵp C Rownd 16
10 Rhagfyr 2022 Enillwyr Gêm 55 - Enillwyr Gêm 56 Rownd yr wyth olaf

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Six facts about Al Thumama Stadium". qatar2022.qa. 20 August 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-22. Cyrchwyd 11 February 2022.
  2. "FIFA World Cup Qatar 2022". fifa.com. Cyrchwyd 24 September 2021.
  3. "Sixth stadium announced for Qatar World Cup 2022". Construction Global. 21 August 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-23. Cyrchwyd 17 December 2020.
  4. "Qatar 2022 stadiums continue to take shape despite pandemic". thepeninsulaqatar.com. 27 October 2021. Cyrchwyd 16 December 2021.
  5. "Get To Know The 2022 Qatar World Cup Stadiums". archdaily.com. 2 August 2018. Cyrchwyd 11 February 2022.
  6. 6.0 6.1 "Al Thumama Stadium nearing completion". gulf-times.com. 14 November 2020. Cyrchwyd 18 December 2020.
  7. "Qatar and Turkey join forces 'in harmony' to build Al Thumama Stadium". thepeninsulaqatar.com. 1 November 2021. Cyrchwyd 16 December 2021.
  8. "Qatar reveals Al Thumama Stadium update". timeoutdoha.com. 14 September 2020. Cyrchwyd 17 December 2020.
  9. "Qatar 2022: Football World Cup stadiums at a glance". aljazeera.com. 18 December 2020. Cyrchwyd 16 December 2021.
  10. "Al Thumama stadium making progress ahead of World Cup". en.as.com. 13 November 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-17. Cyrchwyd 8 December 2021.
  11. "Al Thumama Stadium takes shape". thepeninsulaqatar.com. 12 November 2019. Cyrchwyd 8 December 2021.
  12. "Get To Know The 2022 Qatar World Cup Stadiums". archdaily.com. 20 August 2018. Cyrchwyd 18 December 2020.
  13. "Qatar: "In the prime of their lives": Qatar's failure to investigate, remedy and prevent migrant workers' deaths". amnesty.org. 26 August 2021. Cyrchwyd 11 February 2022.
  14. "Qatar: Little Progress on Protecting Migrant Workers". Human Rights Watch (yn Saesneg). 2020-08-24. Cyrchwyd 2022-09-27.
  15. "Qatar 2022 organiser launches Workers' Welfare website". Business & Human Rights Resource Centre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-27.
  16. "Al Thumama Stadium - When will the sixth Qatar 2022 World Cup venue be inaugurated?". goal.com. 21 September 2021. Cyrchwyd 24 September 2021.
  17. "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". goal.com. 18 December 2021. Cyrchwyd 3 May 2022.
  18. "Algeria edge Morocco in penalty thriller to set up Qatar semi-final". thepeninsulaqatar.com. 12 December 2021. Cyrchwyd 11 February 2022.
  19. "Al Thumama Stadium design looks like a gahfiya reserved for FIFA World Cup 2022". Footballcoal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-01. Cyrchwyd 30 April 2022.