Tîm pêl-droed cenedlaethol Algeria

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Algeria Tîm pêl-droed cenedlaethol)

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Algeria (Arabeg: منتخب الجزائر لكرة القدم) yn cynrychioli Algeria yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Algeria (Ffrengig: Fédération Algérienne de Football) (FAF), corff llywodraethol y gamp yn Algeria. Mae'r FAF yn aelod o gonffederasiwn pêl-droed Affrica, (CAF) ac o'r UAFA (Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabaidd).

Mae Les Fennecs (corlwynogod) wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar bedwar achlysur ac wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Affrica unwaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.