Stadiwm Ahmad bin Ali
| Math | stadiwm |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 2003 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Umm Al Afaei |
| Sir | Bwrdeistref Al Rayyan |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 25.3305°N 51.3413°E |
![]() | |
| Perchnogaeth | Qatar Football Association |
Stadiwm amlbwrpas yn Al Rayyan, Catar yw Stadiwm Ahmad bin Ali (Arabeg: ملعب أحمد بن علي), [1] [2] ac fe'i gelwir hefyd yn Stadiwm Al-Rayyan. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer gemau pêl-droed ar hyn o bryd ac mae'n gartref i Glwb Chwaraeon Al-Rayyan a Chlwb Chwaraeon Al-Kharitiyath. Enwyd y stadiwm ar ôl Ahmad bin Ali Al Thani, Emir Catar rhwng 1960 a 1972. [3] Roedd gan yr hen stadiwm, a adeiladwyd yn 2003, gapasiti o 21,282 o seddi a chafodd ei ddymchwel yn 2015. [4] Mae gan y stadiwm newydd yn Al Rayyan le i 44,740 o seddi. [5]
Cwpan y Byd FIFA 2022
[golygu | golygu cod]Mae Stadiwm Ahmad bin Ali yn un o wyth stadiwm sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022.[6][7] Cafodd hen Stadiwm Ahmad bin Ali ei ddymchwel yn 2015 [8] a dechreuwyd y gwaith o adeiladu'r stadiwm newydd yn gynnar yn 2016.[9] Cynhaliwyd pedair gêm yn y stadiwm yn ystod Cwpan Arabaidd FIFA 2021. [10] Bydd Stadiwm Ahmad bin Ali yn cynnal saith gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 ac ar ôl y gystadleuaeth bydd y stadiwm yn cael ei leihau i 21,000 o seddi.[11]
| Dyddiad | Tîm #1 | Canlyniad | Tîm #2 | Rownd | Presenoldeb |
|---|---|---|---|---|---|
| 21 Tachwedd 2022 | v | Grŵp B | |||
| 23 Tachwedd 2022 | v | Grŵp F | |||
| 25 Tachwedd 2022 | v | Grŵp B | |||
| 27 Tachwedd 2022 | v | Grŵp E | |||
| 29 Tachwedd 2022 | v | Grŵp B | |||
| 1 Rhagfyr 2022 | v | Grŵp F | |||
| 3 Rhagfyr 2022 | Enillwyr Grŵp C | v | Ail safle Grŵp D | Rownd yr 16 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ahmad Bin Ali Stadium". Supreme Committee for Delivery & Legacy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-31. Cyrchwyd 1 Ebrill 2022.
- ↑ "Ahmad bin Ali Stadium". FIFA. Cyrchwyd 1 Ebrill 2022.
- ↑ "Qatar inaugurates fourth stadium for the 2022 World Cup in Al Rayyan". Goal. 18 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 1 Ebrill 2022.
- ↑ "New stadium: Ahmad bin Ali Stadium, the desert dune". stadiumdb.com. 26 Ionawr 2021. Cyrchwyd 15 Chwefror 2022.
- ↑ "Al Rayyan Stadium Qatar". onlineqatar.com. 13 Mai 2019. Cyrchwyd 8 Medi 2021.
- ↑ "2022 Qatar World Cup: Al Rayyan stadium achieves major sustainability rating". goal.com. 12 Hydref 2020. Cyrchwyd 31 August 2021.
- ↑ "Al Rayyan Stadium achieves prestigious sustainability ratings". thepeninsulaqatar.com. 11 Hydref 2020. Cyrchwyd 8 Medi 2021.
- ↑ "Ahmed bin Ali Stadium (Al-Rayyan Stadium) – until 2014". stadiumdb.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2022.
- ↑ "Qatar 2022: Al Rayyan Stadium sees first concrete pouring". StadiumDB. 17 October 2016. Cyrchwyd 30 Ebrill 2017.
- ↑ "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". goal.com. 18 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 15 February 2022.
- ↑ "Qatar Unveils Fifth World Cup Venue: Al Rayyan Stadium by Pattern Architects". archdaily.com. 23 Ebrill 2015. Cyrchwyd 5 Ionawr 2021.
