Stadiwm 974
| Math | stadiwm, association football pitch, modular stadium |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 2021 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Ras Abu Aboud |
| Sir | Doha |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 25.288695°N 51.566465°E |
![]() | |
Stadiwm pêl-droed yn Ras Abu Aboud, Doha, Catar yw Stadiwm 974 (Arabeg: استاد 974) neu Stadiwm Ras Abu Aboud gynt. Fe'i hagorwyd 30 Tachwedd 2021 ac mae'n lleoliad dros dro wedi'i wneud o 974 o gynwysyddion llongau wedi'u hailgylchu a fydd yn cynnal gemau yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddatgymalu. Dyma'r lleoliad dros dro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd FIFA.
Dylunio ac adeiladu
[golygu | golygu cod]Dyluniwyd y stadiwm gan Fenwick Iribarren Architects.[1][2] Mae'r stadiwm wedi'i adeiladu ar safle 450,000 metr sgwâr ar benrhyn artiffisial. Mae ganddo ddyluniad modiwlaidd, ac mae'n cynnwys 974 o gynwysyddion llongau (Saesneg: shipping containers) wedi'u hailgylchu yn deyrnged i hanes diwydiannol y safle a chod deialu rhyngwladol Catar sef (+974).[3] Mae rhai o'r cynwysyddion yn gartref i gyfleusterau stadiwm fel ystafelloedd ymolchi.[3] Bydd y cynwysyddion llongau a'r seddi a ddefnyddir gan y stadiwm yn cael eu datgymalu'n ddiweddarach a'u rhoi'n rhodd i wledydd eraill; dyma'r lleoliad dros dro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd FIFA.[4][5]
Mae'r stadiwm yn un o wyth sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022.[6] Dechreuodd y broses gaffael ar gyfer trawsnewid y stadiwm yn 2017. Bu HBK Contracting Company (HBK),[7] DCB-QA, Time Qatar, Fenwick Iribarren Architects (FI-A), Schlaich Bergermann Partner a Hilson Maron yn gweithio ar godi'r stadiwm hwn.[8][9]
Datgelodd ymchwiliad yn 2021 gan The Guardian fod dros 6500 o weithwyr mudol o Bangladesh, India, Pacistan, Nepal a Sri Lanka wedi marw rhwng 2010 a 2020 wrth adeiladu lleoliadau Cwpan y Byd yn Catar.[10] Ar 23 Chwefror 2021, rhyddhaodd Construction News adroddiad a ddatgelodd nad yw cofnodion marwolaeth yn cynnwys galwedigaeth na gweithle.[11] Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd The Washington Post erthygl ddiwygiedig yn nodi adroddiad gan lywodraeth Catar.[12] Yr yn yr adroddiad dywed llywodraeth Catar nad oes bywyd un gweithiwr wedi’i golli o ganlyniad i'r gwaith adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2022, tra bod yr ymchwiliad gan The Guardian yn cysylltu rhai marwolaethau â’r gwaith adeiladu.[13]
Hanes
[golygu | golygu cod]Enw gwreiddiol y stadiwm oedd Stadiwm Ras Abu Aboud ond ystod digwyddiad lansio ar 20 Tachwedd 2021 ailenwyd y lleoliad yn swyddogol yn Stadiwm 974.[3] Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn Stadiwm 974 ar 30 Tachwedd 2021 ar ddiwrnod agoriadol Cwpan Arabaidd FIFA 2021, rhwng yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Syria.[14] Cynhaliodd y stadiwm bum gêm yn ystod y twrnamaint.[15]
Cwpan y Byd FIFA 2022
[golygu | golygu cod]Bydd saith gêm yn cael eu cynnal yn Stadiwm 974 yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022.
| Dyddiad | Tîm #1 | Canlyniad | Tîm #2 | Rownd | Presenoldeb |
|---|---|---|---|---|---|
| 22 Tachwedd 2022 | - | Grŵp C | |||
| 24 Tachwedd 2022 | - | Grŵp H | |||
| 26 Tachwedd 2022 | - | Grŵp D | |||
| 28 Tachwedd 2022 | - | Grŵp G | |||
| 30 Tachwedd 2022 | - | Grŵp C | |||
| 2 Rhagfyr 2022 | - | Grŵp G | |||
| 5 Rhagfyr 2022 | Enillwyr Grŵp G | - | Ail yn Grŵp H | Rownd yr 16 |
Ar ôl Cwpan y Byd FIFA 2022
[golygu | golygu cod]Disgwylir i'r stadiwm gael ei ddatgymalu ar ôl Cwpan y Byd FIFA 2022. Wedyn, mae cynlluniau i gludo ac ailadeiladu’r stadiwm yn Maldonado, Uruguay i gynnal gemau ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2030 os bydd cais y wlad yn llwyddiannus.[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "A Modular, Demountable Stadium Built From Shipping Containers Will Be Erected for Qatar 2022 World Cup". archdaily.com. 28 November 2017. Cyrchwyd 14 October 2021.
- ↑ "Stadium 974". stadiumdb.com. Cyrchwyd 21 April 2022.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Demountable stadium built with shipping containers reaches completion in Qatar". Dezeen (yn Saesneg). 2021-11-24. Cyrchwyd 2022-01-06.
- ↑ "Stadium 974 in Doha Container becomes icon". moresports.network. 9 February 2022. Cyrchwyd 14 April 2022.
- ↑ "Ras Abu Aboud Stadium Makes Steady Progress". albawaba.com. 26 August 2020. Cyrchwyd 12 January 2021.
- ↑ "Why will Ras Abu Aboud Stadium be dismantled after 2022 FIFA World Cup?". iloveqatar.net. 12 November 2020. Cyrchwyd 4 October 2021.
- ↑ "Qatari firm wins contract for Ras Abu Aboud World Cup Stadium". thepeninsulaqatar.com. 29 May 2018. Cyrchwyd 7 October 2021.
- ↑ "Ras Abu Aboud Stadium, Doha, Qatar". designbuild-network.com. 20 June 2018. Cyrchwyd 14 April 2022.
- ↑ "Qatar unveils designs for Ras Abu Aboud while Khalifa Stadium gets 4-stars". inhabitat.com. 28 November 2017. Cyrchwyd 7 October 2021.
- ↑ "Revealed: 6,500 migrant workers have died in Qatar since World Cup awarded". TheGuardian.com. 23 February 2021.
- ↑ Garner-Purkis, Zak (2021-02-23). "Qatar migrant death rate revealed: 'more than 6,500 workers die since World Cup win'". Construction News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-01.
- ↑ Ingraham, Christopher (27 May 2015). "(UPDATED) The toll of human casualities in Qatar". Washington Post.
- ↑ "Death toll among Qatar's 2022 World Cup workers revealed". the Guardian (yn Saesneg). 2014-12-23. Cyrchwyd 2022-11-01.
- ↑ "UAE vs. Syria". Soccerway. 30 November 2021. Cyrchwyd 21 April 2022.
- ↑ "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". Goal.com. 18 December 2021. Cyrchwyd 21 April 2022.
- ↑ Mundial 2030: Qatar ofreció a Lacalle Pou estadio construido con 974 contenedores y que es desmontable
