Neidio i'r cynnwys

Solomon a Gaenor

Oddi ar Wicipedia
Solomon a Gaenor
Enghraifft o:ffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddi1999 Edit this on Wikidata
Genreffilm ramantus, ffilm ddrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCymru Edit this on Wikidata
Hyd102 munud Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrPaul Morrison Edit this on Wikidata
CyfansoddwrIlona Sekacz Edit this on Wikidata
DosbarthyddAPT Entertainment Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
SgriptiwrPaul Morrison Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Ffilm Gymraeg gyfnod i S4C a ryddhawyd ym 1999 yw Solomon a Gaenor, sy'n serenu Ioan Gruffudd a Nia Roberts. Cynhyrchwyd dau fersiwn wahanol, ochr-yn-ochr, yn Gymraeg a Saesneg. Enillodd y ffilm sawl gwobr mewn gwyliau megis Gŵyl Ffilm Verona, Yr Eidal a'r Ffilm Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru. Cafodd y fersiwn Gymraeg ei henwebu ar gyfer gwobr y "Ffilm Iaith Dramor Orau" yng Ngwobrau'r Academi ym 1999.[1]

Mae'r ffilm wedi'i gosod yng Nghymru yn ystod 1911, lle mae Iddew ifanc (Gruffudd) yn ceisio ennill ei fywoliaeth trwy werthu brethynau o ddrws i ddrws. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen iddo guddio ei ethnigrwydd. Ar un o'i rowndiau gwerthu mae e'n cwrdd ac yn cwympo mewn cariad â merch wylaidd (Nia Roberts) sy'n byw gyda'i thad (William Thomas) a brawd gwrth-Semitig (Mark Lewis Jones). Mae'r ddeuddyn ifanc yn cwympo mewn cariad ac mae hi'n beichiogi, cyn iddi ddod i wybod am ei ethnigrwydd ef. Pan mae terfysgoedd gwrth-Semitig yn digwydd, rhaid i'r ddau ffoi ac yna gwahanu.

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]
  • Castio - Joan McCann
  • Effeithiau arbennig - Richard Reeve
  • Cynllunydd Gwisgoedd – Maxine Brown
  • Cynhyrchwyr Gweithredol – David Green ac Andy Porter

Cyllideb y ffilm oedd £1.6 miliwn, ac fe'i cynhyrchwyd ar y cyd rhwng Ffilmiau a Chynyrchiadau APT, Cyngor y Celfyddydau Lloegr, Cyngor y Celfyddydau Cymru, Ffilmiau Channel 4, Y Loteri Genedlaethol, September Films a S4C.

Manylion technegol

[golygu | golygu cod]

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate

Fformat saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Cymhareb agwedd: 1.66:1

Lleoliadau saethu: Caerdydd, Cymru Arian 'Box Office' $301,754.00 (UDA)

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
Academi Americanaidd Celfyddydau a Gwyddorau Lluniau Symudol (Yr Oscars)1999Enwebiad am Ffilm Orau mewn iaith Dramor
Gŵyl Ffilm Verona, Yr Eidal1999Rhosyn Arian am y Ffilm Orau
Gŵyl Ffilm Emden, Yr Almaen1999Ail wobr
BAFTA Cymru 2000 Camera Gorau – DramaNina Kellgren
Gwisgoedd GorauMaxine Brown
Cynllunio GorauHayden Pearce
Ffilm GorauSheryl Crown
Festróia – Tróia International Film Festival1999Golden DolphinPaul Morrison
Verona Love Screens Film Festival1999Best FilmPaul Morrison
Nantucket Film Festival2000Audience Award for Best Film
Seattle International Film Festival2000

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Adolygiadau

[golygu | golygu cod]

Erthyglau

[golygu | golygu cod]
  • Blandford, Steve 'Wales at the Oscars'. Cyfrwng: Media Wales Journal = Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 2 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005), 101–113.
  • ‘Yr Iddew a’r Gymraes’. Golwg. Cyf. 11, rhif 12 (26 Tachwedd 1998), 13–15.

Marchnata

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Solomon a Gaenor ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.
  1. ↑ Oscars (20 Rhagfyr 2012), "All About My Mother" Wins Foreign Language Film: 2000 Oscars, https://www.youtube.com/watch?v=Gqk-vogchFk, adalwyd 26 Medi 2026