Siobyn

Oddi ar Wicipedia
Orgyia antiqua
Siani flewog ym Merlin yng nghanol Awst.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lymantriidae
Genws: Orgyia
Rhywogaeth: O. antiqua
Enw deuenwol
Orgyia antiqua
(Linnaeus, 10fed cyfrol o Systema Naturae.)
Cyfystyron
  • Phalaena antiqua Linnaeus, 1758
  • Phalaena paradoxa (Retzius, 1783)
  • Orgyia confinis (Grum-Grshimailo, 1891)
  • Orgyia gonostigma (Scopoli, 1763)
  • Orgyia recens (Hübner, 1819)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau; yr enw Saesneg yw Vapourer, a'r enw gwyddonol yw Orgyia antiqua.[1][2] Mae i'w ganfod drwy Ewrop a rhannau helaeth o'r Palearctig.

Hedfana'r gwryw orenfrown yn ystod y dydd, ond nid oes gan y fenyw adenydd. Llwyd ydy lliw'r fenyw.

Y fenyw diadain yn cydio'n dynn yn ei chwd crisialis (chwiler)

Maint lled adenydd y gwryw ydy rhwng 35 a 38 mm.

Siobyn
Egg-mass on empty cocoon on pine species

Mae'r fenyw yn dodwy rhai cannoedd o wyau ar ochr ei sach grisial, sydd wedi'i lynnu'n sownd wrth blanhigyn neu'r tu fewn i risgl. Fel ŵy mae'n gaeafgysgu. Mae'r siani flewog yn deor yn gynnar yn y gwanwyn ac yn mesur 30–40 mm, gyda'r fenyw yn hirach na'r gwryw.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r siobyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.