Simon McBurney

Oddi ar Wicipedia
Simon McBurney
GanwydSimon Montagu McBurney Edit this on Wikidata
25 Awst 1957 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, actor, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, dramodydd Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, OBE, Gwobr Konrad Wolf, Gwobr Theatr Ewrop Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.complicite.org/flash/ Edit this on Wikidata

Mae Simon Montagu McBurney, OBE (ganed 25 Awst 1957)[1] yn actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr Seisnig. Ef yw sefydlwr a chyfarwyddwr celfyddydol y Théâtre de Complicité, Llundain. Mae wedi cael rolau yn The Manchurian Candidate (2004), Friends with Money (2006), The Golden Compass (2007), The Duchess (2008), Robin Hood (2010), Tinker Tailor Soldier Spy (2011), Magic in the Moonlight (2014), The Theory of Everything (2014), a Mission: Impossible - Rogue Nation (2015).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd McBurney yng Nghaergrawnt, Lloegr. Roedd ei dad, Charles McBurney, yn archeolegwr ac academydd Americanaidd. Roedd Charles McBurney yn ŵyr i'r llawffeddyg Americanaidd Charles McBurney (fe'i briodolwyd gyda thynnu'r arwydd meddygol pwynt McBurney, er y mae rhai beirniaid wedi herio ei fodolaeth).  Roedd ei fam, Anne Francis Edmondstone (yn gynt Charles), yn ysgrifenyddes; yr oedd yn Brydeinwraig gyda  llinach Seisnig, Albanaidd a Gwyddelig.[2] Roedd rhieni McBurney yn berthnasau pell a gwrddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[3] Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yn Peterhouse, Caergrawnt, yn graddio yn 1980. Wedi marwolaeth ei dad, symudodd i Baris lle hyfforddodd ar gyfer y theatr yn y Sefydliad Jacques Lecoq.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

McBurney yw sefydlwr a chyfarwyddwr celfyddydol y cwmni theatr Prydeinig Complicite, sy'n perfformio ar draws y byd.[4] Cyfarwyddodd eu cynyrchiadau Street of Crocodiles (1992); The Three Lives of Lucie Cabrol (1994), a addaswyd o drioleg John Berger Into Their Labors; To the Wedding; Mnemonic (1999); The Elephant Vanishes (2003); A Disappearing Number (2007); A Dog's Heart (2010); and The Master and Margarita (2011).

McBurney yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin ar 6 Awst, 2015

Creodd a chyfarwyddodd McBurney y darn A Disappearing Number, yn cymryd ei ysbrydoliaeth o'r stori am y cydweithrediad rhwng dau fathemategwr pur nodedig yr 20g, yr athrylith Indiaidd Srinivasa Ramanujan, a'r athro Caergrawnt G.H. Hardy.[5] Chwaraewyd y ddrama yn y Barbican yn yr hydref yn 2008 cyn mynd ar daith ryngwladol. Ym mis Chwefror 2009, cyfarwyddodd McBurney y cynhyrchiad Complicite Shun-kin, a seiliwyd ar ddau destun gan Jun'ichiro Tanizaki. Fe'i chynhyrchwyd yn Llundain a Thokyo yn 2010.

Cyfarwyddodd McBurney The Resistible Rise of Arturo Ui ac All My Sons (2008) (y ddau yn Efrog Newydd), a sioeau comedi byw, gan gynnwys So Much Things To Say gan Lenny HenryLive in 2000 gan French and Saunders. 

Mae McBurney yn actor sgrin sefydlog. Chwaraeodd Cecil y côr-feistr mewn rôl gylchol ar The Vicar of Dibley, arbenigwr cyfrifiaduron y CIA Garland yn Body of Lies, Dr. Atticus Noyle yn The Manchurian Candidate (2004), Nigel Stone yn The Last King of Scotland, y gŵr metrorywiol Aaron yn Friends with Money, Fra Pavel yn The Golden Compass, Charles James Fox yn The Duchess, ac Oliver Lacon yn Tinker Tailor Soldier Spy. Ysgrifennodd y stori ar gyfer Mr. Bean's Holiday, yn ogystal â bod yn uwch gynhyrchydd.  

O 2010 i 2014, ymddangosodd yng nghyfres gomedi deledu y BBC Rev., yn chwarae'r rôl Archddiacon Robert. Lleisiodd McBurney Kreacher yn Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 (2010). Yn y gyfres The Borgias, chwaraeodd yr arbenigwr Cyfraith Ganonaidd Johannes Burchart. McBurney oedd Artiste Associé y 66ain Festival d'Avignon (2012).

Yn 2014, chwaraeodd McBurney tad Stephen Hawking yn y ffilm fygraffyddol am ei fywyd, The Theory of Everything.[6] Ym mis Gorffennaf 2015, serennodd fel Atlee, cyfarwyddwr MI6 yn y ffilm acsiwn ddrama gyffrous Mission: Impossible - Rogue Nation. Chwaraea'r ymchwiliwr goruwchnaturiol Maurice Grosse yn y ffilm arswyd  The Conjuring 2: The Enfield Poltergeist.[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw yn Llundain gyda'i wraig a thri o blant.[8] Yn Rhestr Anrhydeddau y Flwyddyn Newydd 2005, penodwyd McBurney yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar gyfer ei waith drama.[9]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1991 Kafka Assistant Oscar
1994 A Business Affair Gwerthwr
1994 Being Human Hermas
1994 Tom & Viv Dr. Reginald Miller
1994 Mesmer Franz
1996 The Ogre Brigadier
1997 The Caucasian Chalk Circle Azdak the Judge Fideo
1998 Cousin Bette Vauvinet
1999 Onegin Monsieur Triquet
2000 Eisenstein Sergei Eisenstein
2003 The Reckoning Stephen
2003 Bright Young Things Sneath (Photo-Rat)
2003 Skagerrak Thomas
2004 The Manchurian Candidate Dr. Atticus Noyle
2004 Human Touch Bernard
2006 Friends with Money Aaron
2006 The Last King of Scotland Nigel Stone
2007 The Golden Compass Fra Pavel
2008 Body of Lies Garland
2008 The Duchess Charles James Fox
2009 Boogie Woogie Robert Freign
2010 Robin Hood Father Tancred
2010 Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 Kreacher Llais
2011 Jane Eyre Mr. Brocklehurst
2011 Tinker Tailor Soldier Spy Oliver Lacon
2013 For Those Who Can Tell No Tales Tim Clancy
2014 Magic in the Moonlight Howard Burkan
2014 The Theory of Everything Frank Hawking
2015 Mission: Impossible – Rogue Nation Y Cyfarwyddwr Atlee
2016 The Conjuring 2: The Enfield Poltergeist Maurice Grosse Yn y broses ôl-gynhyrchu

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1988 Screenplay Martin Pennod: "Burning Ambition"
1989 The Two of Us Y Dyn Pennod: "Trust"
1992 The Bill Shaun Anderton Pennod: "Man of the People"
1992–93 The Comic Strip Presents Mick / Madman 2 bennod
1994–2004 The Vicar of Dibley Côr-feistr Cecil 4 pennod
1995 Performance Ancient Pistol Pennod: "Henry IV"
1996 Absolutely Fabulous Tocynnwr Pennod: "The Last Shout (Part 1)"
1999 Midsomer Murders Henry Carstairs Pennod: "Death of a Stranger"
2010–14 Rev. Archddiacon Robert 19 pennod
2011–13 The Borgias Johannes Burchart 6 phennod
2014 Knifeman Houdyshell Peilot heb ei werthu
2015 The Casual Vacancy Colin "Cubby" Wall Mini-gyfres; 3 pennod

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Index entry".
  2. Costa, Maddy (11 September 2010).
  3. 3.0 3.1 O'Mahony, John (1 January 2005).
  4. Thorpe, Vanessa.
  5. A Disappearing Number at the Barbican
  6. "The Theory of Everything begins principal photography". Working Title Films. 8 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-06. Cyrchwyd 8 October 2013.
  7. Kroll, Justin (September 17, 2015).
  8. Jacques, Adam (20 September 2011).
  9. The London Gazette: (Supplement) no. 57509. p. 12. 31 December 2004.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]