Siglen fraith

Oddi ar Wicipedia
Siglen Fraith
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Motacillidae
Genws: Motacilla
Rhywogaeth: M. alba
Enw deuenwol
Motacilla alba
Linnaeus, 1758

Mae'r Siglen Fraith (Motacilla alba) yn aelod o deulu'r Motacillidae, sy'n cynnwys y corhedyddion yn gystal a'r siglennod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd a chanol Asia, ynghyd â rhannau o ogledd Affrica. Yn y rhannau gogleddol mae'n aderyn mudol, sy'n symud tua'r de yn y gaeaf, i Affrica fel rheol.

Pryfed yw'r prif fwyd, ac mae'n aml yn bwydo yn agos i ddŵr neu yn agos i dai, er nad yw mor gysylltiedig a dŵr a'r Siglen Lwyd. Mae'n nythu mewn tyllau mewn creigiau neu waliau cerrig.

Mae'r Siglen Fraith rhwng 16.5 a 19 cm o hyd, gyda chynffon hir sy'n cael ei siglo'n barhaus. Mae'r is-rywogaeth yn y rhan fwyaf o Ewrop, M. a. alba yn llwyd ar y cefn ac yn wyn ar y bol, gyda pen a gwddf du ac wyneb gwyn. Ym Mhrydain mae is-rywogaeth ar wahân, M. a. yarrellii sy'n ddu ar y cefn yn hytrach na llwyd.

Mae'r Siglen Fraith (M. a. yarrellii) yn aderyn cyffredin a chyfarwydd yng Nghymru. Gellir gweld yr is-rywogaeth Ewropeaidd M. a. alba, y "Siglen Wen", yn y gwanwyn a'r hydref pan maent yn pasio trwodd wrth fudo.

Siglen Wen (M. a. alba)
Cuculus canorus canorus + Motacilla alba