Neidio i'r cynnwys

Sianti

Oddi ar Wicipedia
Sianti
Enghraifft o:genre gerddorol, song type Edit this on Wikidata
Mathwork song, sailor song Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01t82x edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cân waith a genid yn wreiddiol gan forwyr yn Oes yr Hwylio yw sianti,[1] cân fôr, neu gân morwr.[2] Nodweddir ffurf y sianti gan unawd a chytgan am yn ail, yr unawd a genir gan y siantïwr[3] (a ddewisid am ei allu morwrol yn hytrach na'i ddawn gerddorol) a'r gytgan gan aelodau eraill y criw. Byddai rhythm y gân yn cynorthwyo wrth wneud y gwaith ar y llong, fel rheol tynnu rhaff, gyda'i gilydd. Dan arweiniad llafarganu'r siantïwr, a safai ar flaen y rhaff, byddai'r morwyr yn ateb ac yn halio ar y cyd ar le penodol yn y gân. Tynnodd y tonau'n aml ar faledi, caneuon gwerin, ac alawon poblogaidd eraill. Cenid ar gyflymder a oedd yn addas i'r gwaith wrth law, a gallai'r siantïwr cyfansoddi'r dôn a'r geiriau ar y pryd er mwyn estyn hyd y sianti i gyflawni'r dasg.[4] Mae geiriau siantïau yn ymwneud â bywydau morwyr, mordeithiau, llongau, y capten, a merched.

Rhennir siantïau yn dri prif fath, yn cyfateb i'r gwaith ar fwrdd y llong:

  • Sianti fer, caneuon syml ar gyfer ychydig o haliadau;
  • Sianti'r hwylraff, gyda rhythm o dynnu ac ymlacio ar gyfer tasgau megis codi'r hwyliau;
  • Sianti'r capstan neu sianti'r ddirwynlath, i gydamseru camau'r morwyr, er enghraifft wrth godi'r angor.[4]

Tardda'r enw sianti, trwy'r ffurfiau Saesneg shanty, chantey a chanty, o'r Ffrangeg chanter, sef "canu".

Siantis yn Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Cyfansoddwyd a chyfieithwyd llawer o siantis Cymraeg gan John Glyn Davies, megis y rhai sy'n ymwneud â Fflat Huw Puw.[5][6]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  sianti. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  2. ↑ Geiriadur yr Academi, "shanty".
  3. ↑  siantïwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  4. 1 2 (Saesneg) shanty. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2023.
  5. ↑ Jones, Cledwyn (2003). Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870 - 1953 ; shantis, caneuon plant a cherddi Edern. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn. ISBN 978-1-903314-56-2.
  6. ↑ Davies, John Glyn. Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill. Y Lolfa. ISBN 978-1-800993-02-0.