Hwyl
Darn o ddefnydd hydwyth megis cynfas yw hwyl sydd yn defnyddio ynni'r gwynt i yrru badau sydd yn hwylio ar wyneb y dŵr, gan gynnwys hwyl-longau, cychod hwyliau, ac hwylfyrddau, a hefyd ar wynebau solet megis cychod ar rew neu dywod.
Mae'n debyg taw crwyn anifeiliaid oedd y hwyliau cyntaf ar rafft neu ysgraff syml a wneid o foncyff. Yn ddiweddarach, gwneid hwyliau o gyrs wedi eu gwehyddu a'u tynnu rhwng hwylbrenni. Darlunir hwyliau lliain gan gelfyddyd yr Hen Aifft, tua'r flwyddyn 3300 CC. Yn ystod yr Oesoedd Canol, cynhyrchid lliain o lin ar gyfer llongau Lloegr, Ffrainc, a Sbaen. Ym 1851 llwyddodd y sgwner America, a chanddi hwyliau cotwm, i guro'r holl gychod Prydeinig mewn ras o amgylch Ynys Wyth. Wedi hynny, defnyddid cotwm yn fwyfwy yn Ewrop i gynhyrchu cynfas hwyliau. Yn yr 20g datblygwyd sawl ffabrig synthetig megis polyester Dacron/Terylene.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) sail (watercraft part). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2017.