Siambr rethreg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Math o gymdeithas lenyddol a dramataidd a ffurfiwyd mewn sawl dinas a thref ar draws yr Isel Wledydd yn ystod oes Dadeni'r Gogledd oedd y siambr rethreg (Iseldireg: rederijkerskamer). Datblygodd o hen gwmnïau theatraidd yr Oesoedd Canol Diweddar, Gesellen van den Spele, ac ar batrwm cymdeithasau dramataidd Ffrengig y cyfnod, y puys, a blodeuai yn enwedig yn Fflandrys ac Holand yn y 15g a'r 16g. Byddai'r siambrau rhethreg yn gyfrwng pwysig wrth feithrin llenyddiaeth Iseldireg a Fflemeg y werin. Mae rhyw 600 o ddramâu'r rederijkers wedi goroesi, yn ogystal â chasgliadau o'u baledi (refereinen).[1]

Sefydlwyd siambrau rhethreg gan ddinasyddion dosbarth-canol er mwyn hybu barddoniaeth a drama. Ar y cychwyn fe'u trefnwyd yn ddemocrataidd, ond yn ddiweddarach byddent yn derbyn nawdd oddi ar y pendefigion ac yn cyflogi arweinydd, cynorthwywyr, croesan, a rheolwr.[2] Byddai'r siambr rethreg yn dwyn enw, arwyddair, ac arwyddlun ei hun, ac yn derbyn comisiwn oddi ar y ddinas i drefnu dathliadau cyhoeddus ac i berfformio mewn gwyliau lleol.

Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngdrefol o'r enw landjuwelen ("tlysau gwladol") gan y siambrau rhethreg er mwyn gwobrwyo dramodwyr a beirdd, yn debyg i draddodiad yr eisteddfod yng Nghymru. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd dramâu o sawl math ganddynt, gyda themâu crefyddol a seciwlar, gan gynnwys dramâu moes a miragl alegorïaidd, straeon Beiblaidd, hanesion, a chwedlau. Un o ddramâu moes amlycaf y cyfnod oedd Elckerlyc (tua 1485), a briodolir i Peter van Diest neu i Pieter Doorlant, a gafodd ei drosi i'r Saesneg ar ffurf Everyman. Esiampl o'r ddrama firagl yw Mariken van Nieumeghen (tua 1500), stori am yr wrthgilwraig Mariken sydd yn byw gyda'r Diafol am saith mlynedd cyn iddi droi'n ôl at ei ffydd wrth iddi daro ar basiant. Bu'r siambrau rhethreg hefyd yn gyfrifol am ffyniant y ffars yn yr Iseldiroedd yn y 15g. Genre boblogaidd arall oedd y ddrama ramant, er dim ond Spiegel der Minnen gan Colijn van Rijssele sydd yn goroesi.[2]

Mae barddoniaeth y rederijkers yn pwysleisio ffurfiau a mydryddiaeth gymhleth, a fyddai'n gosod sail i benillion dramataidd ac arwrgerddi diweddarach yn yr iaith Iseldireg, yn enwedig mesur y cwpled alecsandraidd mewn odl. Datblygwyd ffurf unigryw y referein dan ddylanwad y siambrau, er nad oedd un o feirdd disgleiraf y ffurf honno, Anna Bijns o Antwerp, yn gallu ymaelodi â siambr oherwydd ei rhyw.[1]

Bu'r siambrau rhethreg ar drengi erbyn diwedd yr 16g o ganlyniad i ddeddfau newydd yn erbyn ymgynnull yn gyhoeddus, cynhyrfoedd crefyddol y Diwygiad Protestannaidd a'r Gwrth-Ddiwygiad Catholig, a dirywiad mewn ansawdd eu cynnyrch. Trodd nifer ohonynt yn gymdeithasau cydedmygu ar gyfer pastynfeirdd di-nod, er i ddwy siambr rethreg amlwg yn Amsterdam—yr Egelantier a'r Wit Lavendel—barhau'n boblogaidd yn yr 17g.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Eddy K. Grootes, "Dutch literature and language" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 7 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Rederijkerskamer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2021.