Siôr II, brenin y Groegiaid
Siôr II, brenin y Groegiaid | |
---|---|
Y Brenin Siôr II, tua 1942 | |
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1890 Tatoi Palace |
Bu farw | 1 Ebrill 1947 Athen |
Dinasyddiaeth | Gwlad Groeg |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Brenin y Groegiaid, Brenin y Groegiaid |
Tad | Cystennin I, brenin y Groegiaid |
Mam | Sophie o Brwsia |
Priod | Princess Elisabeth of Romania |
Llinach | Llinach y Glücksburgs, Tŷ Glücksburg |
Gwobr/au | Urdd Gwasanaeth Nodedig, Order of the White Eagle, War Cross, Urdd y Gwaredwr, Urdd y Dannebrog |
llofnod | |
Delwedd:George II of Greece signature in Greek.svg, George II of Greece Signature.svg |
Uchelwr o Dŷ Glücksburg oedd Siôr II (Groeg: Γεώργιος Βʹ, Geórgios II; 20 Gorffennaf 1890 – 1 Ebrill 1947) a fu'n Frenin y Groegiaid o Fedi 1922 i Fawrth 1924 ac o Dachwedd 1935 hyd at ei farwolaeth yn Ebrill 1947.
Ganed ym Mhalas Tatoi, ger Athen, Teyrnas Groeg, yn fab hynaf i'r Tywysog Coronog Cystennin a'i wraig y Dywysoges Sophie, merch Ffredrig III, cyn-Ymerawdwr yr Almaen. Yn sgil llofruddiaeth ei dad-cu, y Brenin Siôr I, ym 1913, esgynnodd Cystennin i'r orsedd a dyrchafwyd Siôr yn Dywysog Coronog Groeg. Wedi i Roeg ymuno â'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917 ar ochr y Cynghreiriaid, dan arweiniad y Prif Weinidog Eleftherios Venizelos, aeth y Brenin Cystennin yn alltud a choronwyd brawd iau Siôr, Alecsander, yn Frenin y Groegiaid. Cafodd Siôr ei hepgor o'r olyniaeth oherwydd yr amheuaeth ei fod yn cydymdeimlo â'r Almaenwyr.[1] Wedi marwolaeth Alecsander ym 1920, dychwelodd Cystennin i'r orsedd. Priododd y Tywysog Siôr ag Elisabeth (1894–1956), merch Ferdinand I, Brenin Rwmania, ym 1921. Ni chawsant blant.
Wedi i'r Brenin Cystennin ymddiorseddu am yr eildro, yn sgil chwyldro'r Cadfridog Nikolaos Plastiras ym Medi 1922, esgynnodd Siôr i'r orsedd am y tro cyntaf. Methodd coup d'état gan frenhinwyr yn ei erbyn yn Hydref 1923, ond teimlodd Siôr ei fod yn gorfod gadael y wlad. Ar 19 Rhagfyr 1923 ffoes y Brenin Siôr a'r Frenhines Elisabeth o Wlad Groeg. Ym Mawrth 1925 pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol dros ddiddymu'r frenhiniaeth, a datganwyd Gweriniaeth Groeg dan arlywyddiaeth yr Ôl-lyngesydd Pavlos Kountouriotis. Bu Siôr yn alltud am 12 mlynedd bron, yn gyntaf yn Rwmania o 1924 i 1932 ac yna yn Lloegr o 1932 i 1935.
Dychwelodd Siôr i Wlad Groeg wedi i'r Blaid Boblyddol, gyda chefnogaeth y fyddin, ennill grym yn y Cynulliad a datgan adferiad y frenhiniaeth yn Hydref 1935. Cynhaliwyd refferendwm yn Nhachwedd i ennill cefnogaeth y bobl i'r brenin, a phleidleisiodd 98% o'r etholwyr o blaid yr adferiad, ond mae'n debyg i'r canlyniadau cael eu ffugio a phleidleiswyr cael eu bygythio. Wedi marwolaeth y Prif Weinidog Geórgios Kondylis ym 1936, penodwyd Ioannis Metaxas yn brif weinidog gan y brenin gyda grymoedd unben. Lansiodd Metaxas ymgyrch awdurdodaidd yn erbyn y comiwnyddion, gan wahardd pleidiau gwleidyddol, diddymu'r senedd, ac gohirio hawliau cyfansoddiadol.
Gorfodwyd Siôr yn alltud unwaith eto yn sgil goresgyniad Groeg gan yr Almaen Natsïaidd yn Ebrill 1941. Aeth yn gyntaf i ynys Creta, ac yna i Alecsandria, ac o'r diwedd i Lundain fel pennaeth ar lywodraeth alltud Groeg. Wedi diwedd y rhyfel, cytunodd pleidleiswyr Groeg i adfer y frenhiniaeth mewn refferendwm dan oruchwyliaeth y Cynghreiriaid, a dychwelodd Siôr i'r wlad ym Medi 1946. Chwe mis yn ddiweddarach, bu farw o sglerosis y rhydwelïau yn Athen yn 56 oed, a fe'i olynwyd yn frenin gan ei frawd iau Pawl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) George II (king of Greece). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mai 2021.