Siôn Wyn ap Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Siôn Wyn ap Cadwaladr, bu farw tua 1589, yn uchelwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1559 i 1563 [1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen blasdy'r Rhiwlas

Does dim cofnod o ba bryd yr anwyd Siôn Wyn ond roedd yn fab hynaf i Cadwaladr ap Robert ap Rhys o’r Rhiwlas. Ei fam oedd Jane ferch Meredydd ap Ieuan ap Robert o Wedir, Llanrwst.

Priododd Jane, ferch ac etifedd Thomas ap Robert ap Gruffydd ap Rhys, Llwyn Dedwydd, Llangwm. Bu iddynt 3 mab a 6 merch. Ei fab hynaf oedd Cadwaladr Wyn, a fabwysiadodd y cyfenw Price. [2]

Siôn Wyn oedd yn gyfrifol am adeiladu hen blasty Tuduraidd y Rhiwlas a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1574 ac a dymchwelwyd ym 1951.

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1559 i 1563; Siedwr Meirionnydd o 1564-1565; ynad heddwch o 1573; Uchel Siryf Meirionnydd o 1576 i 1577 ac eto o 1585 i 1586 ac fel dirprwy raglaw o 1587 hyd ei farwolaeth. Roedd gyrfa gyhoeddus Siôn Wyn wedi ei selio yn bennaf ar ei gysylltiadau teuluol ag ystadau Rug, Plas Iolyn a Gwydir yn hytrach nag ar sgiliau gwleidyddol, gweinyddol neu ddyfeisgarwch personol.[3]

Noddwr Beirdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Siôn Wyn, a’i dad Cadwaladr ap Rhys yn noddwyr amlwg i’r beirdd. Ymysg y beirdd a dderbyniodd lletygarwch yn Rhiwlas bu Gruffydd Hiraethog, William Llŷn, Simwnt Fychan, Owain Gwynedd, William Cynwal, Siôn Cent a Siôn Phylip.[4]. Canodd Siôn Tudur gywydd yn gofyn i Siôn Wyn i roi dryll i Humphrey Thomas, Bodelwyddan a bu Ieuan Tew Ieuanc yn fardd Teulu'r Rhiwlas yng nghyfnod Siôn Wyn a Cadwaladr, ei fab[5].

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Does dim sicrwydd am ddyddiad marwolaeth Siôn Wyn, ond ceir cyfeiriad ato fel y diweddar mewn dogfen ddyddiedig 1589.[6]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Archaeologia Cambrensis Fifth Series Vol. VIII No. XXX April 1891 tudalen 19
  2. Griffiths, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families tud 247
  3. Smith, J Beverley a Smith Llinos History of Merionethshire Vol II, tud 673 Gwasg Prifysgol Cymru 2001
  4. Smith, J Beverley a Smith Llinos History of Merionethshire Vol II, tud 626 Gwasg Prifysgol Cymru 2001
  5. Y Bywgraffiadur PRICE (TEULU), Rhiwlas , plwyf Llanfor , sir Feirionnydd
  6. The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603, gol. P.W. Hasler, 1981 WYN AP CADWALADR, John (d.?1589), of Rhiwlas, Merion.
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Elis Prys
Aelod Seneddol Meirionnydd
15591563
Olynydd:
Elis Prys