Shane Williams (paentiad)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Shane Williams" gan David Griffiths; 2012.

Paentiad olew gan yr arlunydd David Griffiths (g. 1939) yw Shane Williams. Mae'r llun yn mesur 100 wrth 123 cm.

Magwyd Griffiths ym Mhwllheli, ar ôl i'r teulu symud yno o Lerpwl, ble y cafodd ei eni.[1] Wedi iddo adael yr ysgol mynychodd goleg y Slade yn Llundain. Caiff ei ystyried yn un o arlunwyr gorau gwledydd Prydain.

Peintiwyd y llun olew 30 x 40 modfedd hwn ar ganfas yn 2012.[2] Ymhlith y paentiadau eraill gan Griffiths mae: Gwynfor Evans, Siân Phillips, Bryn Terfel a Syr Geraint Evans. Yn y llun gwelir Shane yn gwisgo gwisg Cymru, wedi iddo chwarae'r gêm ryngwladol olaf dros ei wlad - yn erbyn Awstralia. o graffu'n agos, gwelir hefyd y geiriau "Bye bye!", gan iddo bwytho'r geiriau ar ei esgidiau.[3]

Europeana 280[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect 'Gwaith Celf Europeana'.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]