Sgwrs Wicipedia:WiciBrosiectau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cychwyn arni[golygu cod]

Wedi bod eisiau creu Proseict penodol ers sbel, er mwyn trio tynnu mewn mwy o gyfrannwyr, yn enwedig os mae gyda nhw ddiddordeb mewn un pwnc uwchlaw popeth arall. Byddai boch o waith sefydlu'r templates ar y dechrau, ond dw i'n meddwl byddai werth o.--Ben Bore (sgwrs) 07:56, 10 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Cytuno, byddai'n fodlon creu WiciProsiect (WiciBrosiect?) ar feddygaeth. Ffordd wych o drefnu gwaith, arddangos erthyglau a denu golygwyr. —Adam (sgwrscyfraniadau) 11:07, 12 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
WiciBrosiect sy'n swnio'n iawn i fi. Dw i am greu un ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a gweld sut eith hi.--Ben Bore (sgwrs) 12:24, 15 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Gwych! O na fai gen i'r amser ar hyn o bryd! Edrych ymlaen i weld yr erthyglau! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:15, 16 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Eisiau creu Prosiect[golygu cod]

Sut mae mynd ati i awgrymu Prosiect a gofyn am (neu creu) Infoboxes (oes gair Cymraeg ..? Beth am Wybodflwch ..?) Hoffwn sefydlu/cyfrannu at brosiect Gemau'r Gymanwlad cyn Glasgow 2014 a hefyd sefydlu prosiect Pêl-droed. Blogdroed (sgwrs) 22:19, 13 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Fel lot o bethau yma, sdim trefn ffurfiol i gynnig/creu prosiect. Credaf byddai'r ddau ti'n cynnig yn boblogaidd. Ar Wikipedia en mae'n fwy cymhleth, ond ymatti'n creu tudaln y brosiect fel erthyl, mond gyda 'Wicipedia:' o flaen yr enw, felly Wicipedia:WiciBrosiect Pêl-droed a Wicipedia:WiciBrosiect Gemau'r Gymanwlad. D wi heb eu creu eto, felly clicia arnynt a'u harbed os wyt am eu creu, a copia ac addau cynnwys y prosiectau eraill i siwtio beth hoffet ei gyflawni - gyda help eraill! Defnyddia dy gontacts (Twitter a'r cigfynd) i ddenu cyfranwyr.
O ran gwybodlenni (dyna beth ni'n galw Infoboxes), mae'n nhw'n gallu bod reit ffidli i'w creu. Mae rhai gennym rai yma. Os nad ydy beeth wyt eisiau yno, mewn rhai achosion mae jyst copio un drosodd o Wikii en yn gwiethio (paid gofyn sut)neu rho dro ar greu un dy hun. Hola yn Y Caffi os cei drafferth.--Rhyswynne (sgwrs) 10:41, 14 Medi 2013 (UTC)[ateb]
gwych, diolch Rhys. Mi na'i greu'r tudalennau yn gyntaf ac yna bwrw ati efo'r darnau mwy ffidli!! Blogdroed (sgwrs) 13:19, 14 Medi 2013 (UTC)[ateb]