Sgwrs Wicipedia:WiciBrosiect Addysg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

@Jason.nlw: Rwyf wedi newid ychydig bethau man ar y dudalen yma, gan obeithio bod hyn yn iawn efo ti. Roedd ychydig o typos mewn rhai o'r teitlau oedd yn creu dolen goch, er bod erthygl ar gael : John WIlliams yn lle John Williams; Neville Chamberlein yn lle Neville Chamberlain. Mae'r gair Cymraeg gwagio am evacuation yn golygu evacuating the bowells, ymgiliad yw wartime evacuation. Lle fo seren * ar ôl erthygl, rwyf wedi ei roi tu allan o'r hyperlink, byddai dechrau erthygl trwy roi clec ar y hyperlink yn cynnwys y seren yn y teitl, ond byddai creu erthygl heb roi clec ar yr hyperlink ddim yn ei droi'n las yma. Mae [[Erthygl ddiddorol*]] ag [[Erthygl ddiddorol]]* yn ddwy erthygl wahanol.

Wyt ti am i bobl dechrau gweithio ar yr erthyglau yma, neu am eu gadael i ddisgyblion ac athrawon gweithio arnynt? Mae'n edrych fel prosiect cyffroes iawn. Gobeithio bydd pynciau newydd fel daearyddiaeth, addysg grefyddol, cemeg ac ati yn cael eu hychwanegu'n fuan. AlwynapHuw (sgwrs) 01:24, 12 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: Diolch yn fawr iawn i ti am hyn Alwyn. Efo'r rhestr yma, mae gyda ni cyn athrawes hanes yn gweithio ar y prosiect i gasglu ac addasu adnoddau dysgu presennol gan CBAC, HWB ayyb er mwyn creu neu wella'r erthyglau. Bydd iaith a gramadeg yr erthyglau wedyn yn cael i gwirio gan arbenigwr cyn i ni gyhoeddi. Felly am y tro dwi’n credu bod e'n well i beidio annog eraill i greu'r erthyglau er mwyn osgoi dyblu ein hymdrechion. Wedi dweud hynny, wrth weithio ar yr erthyglau yma dw'i wedi sylwi llawer mwy o erthyglau defnyddiol, cysylltiedig sydd ar goll yn y Gymraeg, felly os oes gen ti neu eraill diddordeb galla'i roi rhestr at ei gilydd?
Ni yn trin hyn fel prosiect Peilot gyda'r gobaith bydd modd ymestyn ac addasu ar gyfer pynciau (neu 'Themâu' efo'r cwricwlwm newydd) eraill, tebyg iawn i be maen nhw'n neud yn Wlad y Basg.

Cofion gorau Jason.nlw (sgwrs) 20:35, 14 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw:. Dw'i newydd darllen yr erthygl ar Thomas James a mae'n gwych! Ni wedi ychwanegu cwpl o brawddegau bach ond mae'r safon yn uchel iawn. Felly bydd hyn yn cael i gyflwyno ar gyfer y prosiect fel ma' fe nawr. Diolch eto! Jason.nlw (sgwrs) 12:57, 16 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]

Gwybodlen i HWB, CBAC a'r Llyfrgell Genedlaethol[golygu cod]

Prosiect ddiddorol gan ei bod yn ychwanegu at erthyglau yn hytrach na chreu erthyglau newydd. Fodd bynnag, dydw i ddim yn hoff iawn o'r Wybodlen ychwanegol. Mae ei phwrpas yn amlwg: gweler hefyd sy'n tynnu'r darllenydd i fannau eraill. Felly ar waelod yr erthygl y dylai hon fod yn fy marn i os o gwbwl. Ddim chwaith yn hoffi nad oes yr un tudalennau targed yn rhoi dolennau yn ol i Wicipedia! Mynd un ffordd mae rhain, felly. Yn sicr does dim angen iddynt fod mewn ffont trwm. Sorri bod yn negyddol, ond nid i blant yn unig mae Wicipedia, ac mae hyn hysbysebu gwefannau eraill yn groes i'n credo ni. Wedi dweud hyn, mae'r ychwanegiadau, gan fwyaf, yn bur dda. Sian EJ (sgwrs) 13:03, 26 Hydref 2020 (UTC)[ateb]