Sgwrs:Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gwybodlen - Ar enwiki mae nhw'n dangos pleidiau sydd wedi cael mwy na 5 sedd neu 5% o'r bleidlais. I addasu'r rheol i Gymru, gallen ni gynnwys pleidiau sy'n sefyll yng Nghymru a wedi cael pleidlais flaenorol o >= 5% neu 2 sedd o'r 40 yng Nghymru. Ydi hyn yn deg? Dwi heb weithio allan y mathemateg ar gyfer hyn eto. --Dafyddt (sgwrs) 09:30, 25 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]

Hollol deg! Gwych. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:31, 25 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]
@Dafyddt, AlwynapHuw: Y drydedd blaid a gafodd fwyaf o seddi (drwy wledydd Prydain) oedd yr SNP; mi ychwanegai honno mewn chwinc. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 13 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Ychwanegu'r DUP a Sinn Fein? Os felly mae gennym 7! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:20, 10 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]

Yr Alban[golygu cod]

Newydd orffen diweddaru holl etholaethau'r Alban. Wici Rhuthun 1 (sgwrs) 13:55, 10 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]

Gret! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:31, 10 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]

Baneri cenedlaethol y 4 wlad[golygu cod]

Gan fod 4 gwlad yn cymryd rhan yn etholiadau cyffredinol y "DU" (sic), nid Lloegr yn unig, oni ddylem roi 4 baner genedlaethol y 4 cenedl ar frig y wybodlen? Dylem yn fy marn i. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:31, 10 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]