Sgwrs:Eglwys Sant Cadfan, Tywyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Enw'r eglwys[golygu cod y dudalen]

Mae tair ffurf ar enw'r eglwys, sef Eglwys Sant Cadfan, Eglwys Cadfan Sant, ac Eglwys Cadfan. Ni welaf fod angen mwy na nodi hynny yn yr erthygl ei hun, gan mai mater cymharol ymylol ydyw. Ond nodaf ambell bwynt yma. Mae'n debyg mai 'Eglwys Sant Cadfan' yw'r fwyaf cyffredin, gw. e.e. gwefan yr Eglwys yng Nghymru. Ond mae 'Eglwys Cadfan Sant' hefyd yn digwydd, gan mai'r arfer traddodiadol yn y Gymraeg yw gosod y 'Sant' ar ôl yr enw yn achos seintiau Cymreig, e.e. Dewi Sant (gw. Geiriadur yr Academi dan y gair 'saint'). Sylwer hefyd mai 'Tŷ Cadfan Sant' yw enw'r hen ficerdy yn Nhywyn. Y ffurf olaf yw 'Eglwys Cadfan' (mae'n gyffredin i hepgor y gair 'sant' yn llwyr wrth gyfeirio at eglwysi, fel yn achos Eglwys Padarn yn Llanbadarn Fawr). Mae hon yn ffurf ddigon cyffredin, e.e. yn y gerdd gan Owain Owain i 'Cofebion Tywyn'. Gellid amlhau enghreifftiau. 131.251.133.27 09:42, 19 Medi 2012 (UTC)

Carreg Cadfan[golygu cod y dudalen]

Rwyf wedi nodi'r dyddiad sydd yn yr astudiaeth ddiweddaraf o'r garreg. Mae'r wybodaeth yn y Gwyddoniadur wedi ei seilio ar waith Ifor Williams, sydd wedi ei ddiweddaru bellach.131.251.133.27 09:42, 19 Medi 2012 (UTC)

Cadfan[golygu cod y dudalen]

Mae angen ehangu'r darn ar Cadfan ac ychwanegu ffynonellau.131.251.133.27 09:42, 19 Medi 2012 (UTC)

Cerdd[golygu cod y dudalen]

Dyma gerdd OO a gyhoeddwyd yn y Faner 07 Ebrill 1972:

Cofebion Tywyn


Ceinrwy gwraig Addian sydd yma -
yn ymyl Bud a Meirchiaw:
a Chun, hefyd - gwraig Celen,
Tricet nitanam: erys briw.
Geiriau ar garreg hen.
Addian ei hun, mi wn,
a fu'n naddu'r graig yn gofeb:
safai'r garreg amrwd yn uwch nag ef,
a'i gwydnwch llwydfelyn yn ildio'n ddrud
i'w ebill a'i ddwrn dur a'i wae.
Safodd y goflech hyd hoedl Cun,
cwympodd pan syrthiodd Addian.
Tricet morthgig: erys craig.
Saif heddiw yn eglwys Cadfan
yn Nhywyn: cofeb hynaf ein hiaith.
Saif yn hen
yng nghysgod newydd
ei chell wyth ganrif.
Saif yn y goleuni llwyd
sy'n hidlo drwy'r ffenest fain
yn nhrwch mur.
Saif yno.
Heddiw y'i gwelais gyntaf.
Gelwais i'w gweld
i ladd orig
cyn Steddfod y Plant
yn y neuadd gerllaw.
Gelwais i'w gweld
gyda'r ddwy fach,
ugain munud cyn ddechrau'r ŵyl.
'Doedd gan y ddwy ddim diddordeb
yn y garreg ddi-lun:
oedai'r ddwy - yn eu diniweidrwydd -
yng nghyntedd yr eglwys
(Eglwys Cadfan)
yn dotio ar flodau plastig pabi
yn nhorchau Mawrth
ac yn syllu'n llawn ofn
ar y pennau llewod
a guddiai'n lleng
mewn coedwig Brydeinig
o flodau gwaed.
Ni wyddai'r ddwy.
A minnau, drwy'r porth treisiol,
i geisio'r goflech ddi-drais
i lwch Ceinrwy, meirchiaw a Chun.
Ac fe'i cefais -
cofeb hynaf ein hiaith
mewn dwrn dur
yn gaeth i fur calchwyn,
a cherdyn mewn Saesneg gloyw
yn egluro'r wyrth.
Syllais ar y garreg
a deall
sut y teimlai Aiddan gynt.
Prysurais
drwy ragrith y porth estron:
'roedd y ddwy yn yr awyr iach,
yn fy aros rhwng dwy res
o gelyn gwyrdd.
Cyrhaeddwyd y neuadd.
Gwingai'r plant yn eu seddau
yn fendigedig o fyw,
a iaith Aiddan yn ddwndwr gogoneddus
yng nghlustiau heddiw.
Hon,
ydoedd cofeb y dydd.
Y Faner 07/04/1972

Llywelyn2000 (sgwrs) 10:03, 29 Hydref 2016 (UTC)