Sgwrs:Derwen mes di-goes

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Creu rhifau cyfeiriadau[golygu cod]

Rwyf yn ysgrifennu erthygl ar y dderwen mês digoes ac yn cyfeirio sawl gwaith at yr un ffynhonnell. Pam na fedr y rhif bach yn y testun fod yr un rhif pob tro mae'r cyfeiriad at yr un ffynhonnell? Duncan (sgwrs) 15:49, 29 Mai 2017 (UTC)[ateb]

Gellir gwneud hyn trwy rhoi enw i'r cyfeiriad yn y côd. Dyma sut i'w wneud: <ref name=A>Ffynhonnell A</ref> yn yr achos cyntaf, a <ref name=A/> i ddefnyddio'r un cyfeiriad eto, sy'n rhoi: [1] a [1]Adam (sgwrscyfraniadau) 22:02, 29 Mai 2017 (UTC)[ateb]

DIOLCH YN FAWR ADAM Duncan

Cyfuno dwy rywogaeth[golygu cod]

Dw i wedi newid ychydig o'r eglurhad a roddwyd gan Duncan ar ddechrau'r erthygl, i edrych yn debycach i'r hyn sydd gennym yn arferol. Dyma fel yr oedd:

Oherwydd amharodrwydd Ilawer o ffynonellau i wahaniaethu rhwng y ddwy rywogaeth gyffredin o dderw, "Quercus robur" (derwen mes cosynnog) a "Q. petraea" (derwen mes digoes), penderfynnwyd creu ysgrif yn cyfuno'r ddwy). Llywelyn2000 (sgwrs) 03:50, 5 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]

@Duncan Brown: Os ydan ni am gyfuno fel yr awgrymi, yna, rydan ni'n ei hystyried yn un rhywogaeth. Cywir? Os felly, oni ddylid newid cyfeiriadau at 'ddwy rywogaeth' i 'ddwy is-rywogaeth'? Neu ydw i'n methu? Yn ail, oni ddylid cyfuno'r erthygl hon a'r erthygl ar y genws Derwen? [Cofia nad naturiaethwr mohonof!]Llywelyn2000 (sgwrs) 04:29, 5 Mehefin 2017 (UTC)[ateb]

Na, yn bendant NID dwy is-rywogaeth ydi rhain ond dwy rhywogaeth llawn, ond sydd yn heibrideiddio. Mi fasa dwy erthygl ar wahan yn golygu llawer o ail adrodd a chreu'r argraff (yn enwedig parthed y cysylltiadau diwylliannol, bod y sylwadau yn benodol i UN rhywogaeth, tra, ewn difri, doedd pobl ddim yn gwahaniaethu rhyngddynt. Ond mae gen i feddwl agored...

  1. 1.0 1.1 Ffynhonnell A