Sgwrs:Chwe Chloch

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr enw[golygu cod]

Dwi wedi derbyn yr enw 'Chwe Chloch' am ei fod yn yr erthygl am Aber-bîg. Ond mae Canolfan Bedwyr yn defnyddio'r enw Saesneg 'Six Bells' (chwilier yma). Dydy rhestr Canolfan Bedwyr ddim yn gwbl foddhaol ond buasai'n braf cael tystiolaeth am yr enw Cymraeg. Anatiomaros 18:53, 18 Awst 2010 (UTC)[ateb]

a'r lle!

Iawn, dwi'n dechrau drysu rwan. Yn ôl Canolfan Bedwyr mae 'Six Bells' yn sir Caerffili. Ond yn ôl y map ordnans[1] mae'n fath o fwrdeisdref fymryn i'r de o Abertileri, sydd yn bendant ym Mlaenau Gwent. Mae Comin yn cytuno gan roi'r llun yn y categori Aberileri. Anhygoel! Ac mae trethdalwyr yn talu am y wybodaeth anghyflawn (mae nhw wedi gadael allan sawl pentref, yn enwedig yn y de) ac anghywir hon. Gwell i mi newid y testun a'r categori ayyb am yr ail dro (newidiais nhw diolch i wybodaeth anghywir Canolfan Bedwyr). Oes rhywun yn nabod yr ardal? Anatiomaros 19:02, 18 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Tydyd o ddim yn y "Dictionary of Place Names" rhen Aniatiomaros, o leia ddim dan Six Bells. Llywelyn2000 06:37, 19 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n gyrru trwy'r ardal yn aml y dyddiau hyn i weld fy nghariad sy'n byw yng Nglyn Ebwy. Ac eithrio os oes gan sir Gaerffili allglofan digynsail, mae Chwe Chloch wedi'i lleoli ym Mlaenau Gwent. Gyda llaw, dwi erioed wedi gweld "Chwe Chloch" neu unrhyw enw Cymraeg arall ar y lle ar unrhyw arwydd ffordd, ond wrth gwrs nid yw hynny o reidrwydd yn golygu nad oes enw Cymraeg yn bodoli. —Adam (sgwrscyfraniadau) 15:19, 19 Awst 2010 (UTC)[ateb]
ON: Diddorol, doeddwn i ddim yn ymwybodol o Lysfaen! —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:12, 19 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Diolch i chi'ch dau am yr ymateb. Dwi ddim yn nabod yr ardal ond fel rwyt ti'n deud, Adam, mi fuasai'n rhaid cael rhywbeth tebyg i'r hen glofan yna yn y gogledd erstalwm (rhan o Sir Gaernarfon yn Sir Ddinbych!) i leoli'r lle ym Mlaenau Gwent. Mae'r enw yn swnio fel Cymreigiad amlwg o'r enw Saesneg. A ydy o'n cael ei ddefnyddio o gwbl, dyna'r cwestiwn. Yn niffyg tystiolaeth i brofi hynny dwi'n cael fy nhemtio i ailgyfeirio hyn i Six Bells. Anatiomaros 15:45, 19 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n ymddangos bod y BBC yn defnyddio Chwe Chloch, o leiaf. —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:31, 26 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Fe roedd enw Cymraeg arno llawer oes yn ôl, ond bellach yn cael ei alw'n "Six Bells." Wedi dweud hynny, mae Cyngor Blaenau Gwent yn ei alw'n Chwe Chloch, ac mae'r Llywodraeth yn ei alw'n Chwe Chloch yn Gymraeg hefyd. Mae 'na Superdrug yn Abertyleri sy'n dweud, "Abertillery, Monmouthshire," felly mae llawer o bethau allan o'u lle o hyd. Gan mai lle eithaf newydd yw e o hyd, nid oes arwyddion sy'n dweud "Chwe Chloch" o gwbl (eto) - diffyg gweithredu polisi iaith y Cyngor yw hwn. Dwi o blaid cadw "Chwe Chloch." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 03:21, 26 Awst 2010 (UTC)[ateb]