Sgwrs:Canser y brostad

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae angen cysoni'r term yma - mae rhestr termau safonol yn dweud "Canser y prostad" (dim treiglad). TermCymru. Mae yna gofnod ar Wicipedia yn dweud Prostrad (sydd a amryw o sillafiadau yn cynnwys prostrat a prosdrad!) a ychydig o dudalennau gyda'r un termau. A mae yna gategori Categori:Pobl fu farw o ganser y prostad. Os nad oes gwrthwynebiad, wnai gysoni rhain i gyd i "prostad". --Dafyddt (sgwrs) 12:25, 5 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]

Am flynyddoedd, roeddem yn dilyn Geiriadur yr Acedemi, ond dyw hwnnw heb ei ddiweddaru ers 2008 os cofiaf yn iawn, o sgwrs gyda Bruce yn Wici Natur llynedd, er iddo ddanfon nifer o ddiweddariadau i'r wasg mae'r fersiwn arlein heb ei ddiweddaru! Dw i'n meddwl mai'r Porth Termau, yw'r geiriadur gorau yn y cyswllt hwn, gan ei fod yn tynnu'r wybodaeth o'r 'Termau Hybu Iechyd' (gw. dy ddolen), a dyma'r geiriadur mae Wici Iechyd a Wici Mon wedi'i ddefnyddio'n ddiweddar. Cytuno efo Dafydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:15, 15 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]