Seyðabrævið

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tudalen gyntaf y Llythyr

Y Seyðabrævið[1] yw'r ddogfen hynaf mewn bodolaeth o Ynysoedd Ffaröe. Mae Seyðabrævið yn golygu Llythyr y Defaid mewn Ffaroeg;. Yr enw Hen Norseg yw sauðabréfit. Gellir deall pwysigrwydd y Ddogfen sy'n ymwneud â defaid i'r bobl a'u hunaniaeth pan ystyrir mai ystyr yr enw Ynysoedd Ffaröe yw 'Ynysoedd y Defaid' mewn Ffaroeg.

Mae'r ddogfen yn Orchymyn Brenhinol a ddaeth i rym ar 28 Mehefin 1298 gan y Dug Haakon, a ddaeth, maes o law, yn Frenin Norwy. Mae'n delio gan fwyaf gyda cadw defaid ond mae hefyd yn delio gyda materion eraill a daeth i fod yn rywfath o gyfansoddiad gan dynnu'r rhan fwyaf o'r grymoedd gweinyddol oddi ar y 'Thing' (cynulliad lleol Ffaröe, a ddaeth, maes o law i fod y Løgting - senedd genedlaethol yr Ynysoedd) i'r brenin a'i gynrychiolwyr. Fe'i drafftiwyd ar gyngor Esgob Erlend yn Kirkjubøur a a Sigurd, Cyfreithiwr Shetland, roedd Haakon wedi ei ddanfon i Ynysoedd Ffaröe i ystyried gwendidau yn y gyfraith amaeth.[2]

Yn wahanol i'r Saga Færeyinga sydd o Wlad yr Iâ, mae Llythyr y Defaid wedi ei hysgrifennu ar Ynysoedd Ffaröe. Mae felly yn rhoi gwell disgrifiad o gymdeithas Ffaroeg ar y pryd. Mae hefyd yn dangos y newidiadau cynnar roedd yr iaith Ffaroeg wedi dechrau datblygu wrth iddi ddatblygu oddi ar Hen Norseg.

Mae'r llythyr wedi ei chadw mewn dau gopi; un yn Archifau Cenedlaethol Ynysoedd y Ffaröe yn Tórshavn[3] ac un yn y llyfrgell ym Mhrifysgol Lund, yn Sweden.

Yr 16 pwynt Cyfreithiol a nodir yn Llythyr y Defaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Y lythyren 's' o'r Seyðabrævið
  1. Parthed sut mae angen prawf o berchnogaeth cyn lladd defaid
  2. Parthed trespasu ar dir eraill
  3. Parthed pori defaid ar dir dyn arall.
  4. Parthed cymysgu defaid gwyllt - rhan I
  5. Parthed marcio defaid (clust). Fe'i gwneir yn glir iawn pe bai'r marc cyntaf yn cael ei newid yna fe'i hystyrir yn ladrad
  6. Parthed [ci defaid|cŵn defaid]] sy'n brathu a difrod defaid, rheolau ar gyfer ad-dalu a'r nifer o ddefaid a ganiateir ar dir pori
  7. parthed sut caiff dyddiadau cau yn cael eu trin pan fydd awdurdodau'n rhoi rhybudd
  8. Parthed dyletswydd cyflwyno adroddiad pan fydd defaid yn troseddu ar dir dieithriaid
  9. Parthed dofi defaid gwyllt - rhan II
  10. Parthed rhentu tir
  11. Parthed ymwelwyr diangen ac hawliau'r tlawd
  12. Parthed tystiolaeth
  13. Parthed talu am ymwelwyr sy'n aros
  14. Parthed cartrefi a thenantiaid
  15. Parthed darganfod morfilod a'r gyfran o gig a bloneg
  16. Parthed broc-môr

Drych o'r Gymdeithas Ganoloesol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Llythyr yn rhoi cipolwg ar gymdeithas ganoloesol Ynysoedd Ffaroöe. Ar frig y gymdeithas, safai'r Landdrottar, y tirfeddianwyr (ffermwyr mawr). Fe allent roi rhannau o'u tir i'r leigulendingar, y tenantiaid. Yna, roedd yn rhaid i'r tenantiaid ddosrannu cyfran benodol o'u hincwm, y landskyld, i'r tirfeddianwyr. Pe na bai tenant yn gallu fforddio'r landskyld, gallai'r tirfeddiannwr atafaelu yn ei gynhaeaf cyfan.

Roedd yna hefyd ddosbarth o'r di-eiddo. Ymhlith y rhain roedd llafurwyr, merched/merched di-briod??, a chardotwyr. Gwaherddwyd iddynt adeiladu tŷ oni bai bod ganddynt o leiaf digon o dir i gadw tri buwch arno. Fe'i gwaharddwyd hefyd i roi i rhywun tir nad oedd yn ddigon i'r person gynnal ei hun. Yn ôl y Llythyr y Defaid, dim ond y dynion hynny a allai ofalu eu hunain a'u teuluoedda ganiateir i adeiladu tŷ.

Mae'r Llythyr yn adlewyrchu cymdeithas wedi'i nodweddu gan anghydraddoldeb cymdeithasol a phroblemau mawr. Mae'r angen i greu deddfau sy'n rheoli'r dosbarthiadau is a diogelu hawliau'r cyfoethog yn arwydd bod y boblogaeth tua 1300 wedi tyfu y tu hwnt i'r lefelau y gallai cymdeithas amaethyddol ei chefnogi. Mae yna arwyddion o wrthryfel ac aflonyddwch yn y cyfnod hwn, yn enwedig yn erbyn grym yr Eglwys. Ymddengys mai'r anghydfod hwn oedd y rheswm dros dynnu'n ôl Esgob Erlend o esgobaeth Ynysoedd Ffaröe.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. W. Poulsen, Jóan Hendrik (1971). Seyðabrævið. Copenhagen, Denmark. 
  2. "From the Vikings to the Reformation", G. V. C. Young 1979, p. 52.
  3. "Faroese National Archives". Søvn Landsins. http://www.history.fo/index.php?id=896.